Rhy ifanc i gael Pensiwn?

Mae cynilo ar gyfer dyddiau henaint yn syniad dieithr i lawer o bobl, yn enwedig os ydych yn ifanc a newydd ddechrau gweithio. Mae cynifer o alwadau mwy parod ar eich arian y dyddiau hyn e.e. ad-dalu benthyciad myfyriwr a prynu tŷ o bosibl ac ati. Mae eich dyddiad ymddeol ymhell yn y dyfodol ac nid yw'n rhywbeth i boeni amdano yn y tymor byr.

Hefyd, mae pensiynau'n dueddol o fod yn gymhleth a braidd yn ddiflas ac nid ydynt o reidrwydd yn bwnc y byddech yn ei drafod neu'n poeni amdano!

Cynllunio ar gyfer y Dyfodol

Fodd bynnag, mae wedi dod yn ffaith adnabyddus ein bod yn byw yn hwy fel cenedl, ond er bod llawer ohonom yn ymwybodol o hyn, nid ydym yn dueddol o bwyso a mesur a chynllunio sut y byddwn yn cyllido ein hymddeoliad unwaith y byddwn yn rhoi'r gorau i weithio.

Y cyngor i bawb, ni waeth eu hoed, yw llunio rhywfaint o gynllun ymddeol y gallwch adeiladu arno a'i ddatblygu wrth ichi aeddfedu ac wrth i'ch amgylchiadau newid. Dylai eich ymddeoliad fod yn gyfnod dedwydd yn hytrach nag yn gyfnod o boeni am bob ceiniog!