Beth yw'r dewisiadau Eraill?

Yn hytrach nag ymuno â'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), fel dewis arall, fe allech ddibynnu ar bensiwn y Wladwriaeth ond mae'n annhebygol y bydd y pensiwn hwn, ar ei ben ei hun, yn rhoi digon o incwm ichi wedi i chi ymddeol.

Mae oedrannau ymddeol pensiwn y wladwriaeth yn codi'n barhaus gan fod pobl yn byw yn hirach. Po ifancaf yr ydych, po fwyaf y byddwch yn debygol o aros i gael eich talu.

Yn hytrach nag ymuno â chynllun galwedigaethol, gallech wneud eich trefniadau eich hun a chyfrannu i gynllun pensiwn personol neu bensiwn cyfranddeiliaid, ond ni fyddwch yn elwa o gyfraniad eich Cyflogwr ac mae'n debygol iawn y bydd yn rhaid i chi dalu ffi weinyddol.

Fodd bynnag, yr anfantais bwysicaf o bosibl sy'n gysylltiedig â chyfrannu i bensiwn personol yw'r risg buddsoddi, gan y bydd gwerth eich cronfa pan fyddwch yn ymddeol yn dibynnu ar berfformiad y farchnad ar y pryd hwnnw.