Faint byddaf yn Talu?

Eich Cyflogwr sy'n darparu'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) ar eich cyfer ac ef felly sy'n talu'r rhan fwyaf o gost eich budd-daliadau. Mae'r swm yr ydych chi'n ei dalu yn dibynnu ar yr hyn yr ydych yn ei ennill, ond bydd rhwng 5.5 a 12.5% o'ch cyflog pensiynadwy o dan BRIF Adran y Cynllun.

Mae'r gyfradd yr ydych yn ei thalu yn dibynnu ar y band sy'n gymwys i chi, ond fydd yn seiliedig ar eich cyflog pensiynadwy gwirioneddol. Fodd bynnag, mae'r swm yr ydych yn ei dalu mewn gwirionedd yn llawer llai nag y tybiwch gan fod y cyfraniadau yn ddi-dreth. (Noder y bydd unrhyw goramser cytundebol neu angytundebol yr ydych yn ymgymryd yn cael ei ystyried yn bensiynadwy).

Gallwch hefyd ddewis haneru eich cyfradd gyfrannu arferol, er mwyn cronni hanner lefel y pensiwn yn y cynllun yn ystod y cyfnod hwn, a allai fod yn well dewis na pheidio â bod yn rhan o'r cynllun o gwbl. Gelwir hyn yn Adran 50/50 y Cynllun.

Trefniant Cyfrannu 2026/27

Eich Cyflog Pensiynadwy Gwirioneddol

Cyfradd Cyfrannu i'r BRIF Adran

Cyfradd Cyfrannu i'r Adran 50/50
Hyd at £18,400 5.50% 2.75%
£18,401 i £29,000  5.80% 2.90%
£29,001 i £47,300  6.50% 3.25%
£47,301 i £59,800  6.80% 3.40%
£59,801 i £84,000  8.50% 4.25%
£84,001 i £119,100  9.90% 4.95%
£119,101 i £140,400  10.50% 5.25%
£140,401 i £210,700  11.40% 5.70%
Mwy na £210,701  12.50% 6.25%