Buddion Marwolaeth
Mae'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yn cynnig diogeliad i'ch teulu os byddwch yn marw mewn swydd, pan ydych yn aelod gohiriedig neu'n bensiynwr. Bydd eich priod neu bartner sifil cofrestredig yn derbyn pensiwn blynyddol sy'n daladwy am oes, a bydd hefyd yn derbyn grant marwolaeth a delir yn awtomatig os byddwch yn marw a chithau'n aelod gweithredol neu'n aelod gohiriedig.
I sicrhau bod y grant marwolaeth hwn yn cael ei dalu'n brydlon ar eich marwolaeth i dalu costau'n ddi-oed, dylech lenwi ffurflen Mynegi Dymuniad Grant Marwolaeth a'i dychwelyd i Gronfa Bensiwn Dyfed.
Ffurflen
Dalier Sylw
NID yw cynllun pensiwn y Cynghorwyr yn caniatáu talu pensiwn i bartner Cyd-fyw.