Pan fyddwch yn ymddeol byddwch yn derbyn pensiwn a chyfandaliad di-dreth o'r CPLlL. Ar gyrraedd Oed Ymddeol gwladol byddwch hefyd yn derbyn Pensiwn Ymddeol sylfaenol y Wladwriaeth os ydych wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol yn ystod eich bywyd gwaith.
Faint o bensiwn fyddaf i'n ei dderbyn?
Mae eich pensiwn yn seiliedig ar gyfanswm eich aelodaeth a chyflog cyfartalog eich gyrfa. Mae'r enghraifft isod yn dangos y modd y cyfrifir eich pensiwn drwy rannu cyflog cyfartalog eich gyrfa ag 80 a lluosi'r ffigur hwnnw gyda chyfanswm eich aelodaeth sy'n rhoi eich pensiwn blynyddol.
Sut caiff cyflog cyfartalog fy ngyrfa ei gyfrifo?
Mae eich budd-daliadau pensiwn yn cael eu cyfrifo drwy roi cyfartaledd o'ch enillion pensiynadwy ar ôl eu hailbrisio a'u hasesu dros y cyfnod cyfan yr ydych yn aelod o'r CPLlL. Mae'r enillion yn cynyddu (ac eithrio'r cyflog yn y flwyddyn olaf sy'n dechrau ar 1 Ebrill) yn unol â'r cynnydd yn y Mynegrif Prisiau Defnyddwyr (CPI). Yna rhennir cyfanswm y tâl a ail-brisiwyd â hyd eich aelodaeth er mwyn cyfrifo cyflog cyfartalog eich gyrfa.
Enghraifft
Mae aelod etholedig wedi bod yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol am 5 mlynedd. Bydd Cyflog Cyfartalog ei yrfa/ei gyrfa yn cael ei gyfrifo fel a ganlyn:
Blwyddyn 1: Enillion £10,000 x CPI = £10,250
Blwyddyn 2: Enillion £10,500 x CPI = £10,750
Blwyddyn 3: Enillion £11,000 x CPI = £11,250
Blwyddyn 4: Enillion £11,500 x CPI = £11,750
Blwyddyn 5: Enillion £12,000 x CPI = £12,250
Cyfanswm £56,250
£56,250 / 5 mlynedd = £11,250
Mae'r Mynegrif Prisiau Defnyddwyr yn dangos y newidiadau o ran costau byw. Mae'n adlewyrchu hynt prisiau amrywiaeth o nwyddau a gwasanaethau dros amser. Mae swm y codiad blynyddol mewn pensiynau wedi'i seilio ar hynt y Mynegrif Prisiau Defnyddwyr.
Faint fydd fy Lwmp Swm?
Mae'r lwmp swm a delir yn awtomatig ar ymddeoliad yn 3 gwaith eich pensiwn blynyddol ac mae'n ddi-dreth. Fel eich pensiwn fe'i seilir ar gyflog cyfartalog eich gyrfa a chyfanswm eich aelodaeth. Cyfrifir y lwmp swm yn ôl 3/80 o gyflog cyfartalog eich gyrfa am bob blwyddyn o aelodaeth o'r cynllun.