Ymuno â'r Cynllun

Mae'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL)ar agor i holl gynghorwyr Cynghorau Sir neu Gynghorau Bwrdeistref Sirol Cymru y cynigir aelodaeth o'r Cynllun iddynt yn rhan o gynllun lwfansau'r cyngor ac sydd heb gyrraedd 75 oed. Cynghorwyr cymwys yw'r enw ar y cynghorwyr y cynigir aelodaeth iddynt.

Os cawsoch gynnig i ymaelodi â'r Cynllun, chi sydd i benderfynu a ydych yn dewis ymuno â'r Cynllun neu beidio. Os ydych yn dewis ymuno, byddwch yn aelod o'r CPLlL o ddechrau'r cyfnod talu cyntaf wedi i'ch dewis gael ei dderbyn.

I ymaelodi â'r cynllun mae'n bwysig eich bod yn llenwi'r Datganiad Optio i Fewn i'r Cynllun a'i ddychwelyd i'r Cyngor. Pan dderbynnir eich ffurflen, llunnir y cofnodion perthnasol ac anfonir hysbysiad ffurfiol atoch ynghylch eich aelodaeth o’r Cynllun. Hefyd, dylech wirio'r lwfansau a delir i chi er mwyn sicrhau bod y cyfraniadau pensiwn yn cael eu didynnu.

Mae'n bwysig iawn hefyd eich bod yn llenwi ffurflen Mynegi Dymuniad Grant Marwolaeth pan fyddwch yn ymuno â'r CPLlL.