Gadael y Cynllun
Gallwch adael y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) ar unrhyw adeg trwy roi rhybudd ysgrifenedig i'ch cyngor. Os ydych yn dewis gadael, bydd y penderfyniad yn dod i rym ar ddiwedd y cyfnod talu pryd y rhoddwyd y rhybudd, oni bai eich bod wedi nodi dyddiad diweddarach yn eich rhybudd. Argymhellir eich bod yn cael rhagor o wybodaeth cyn dewis gadael y Cynllun.
I adael y Cynllun, cysylltwch â Chronfa Bensiwn Dyfed.
A ydw i'n gallu ailymuno â'r Cynllun yn ddiweddarach?
Os ydych yn dewis gadael unwaith, gallwch ailymuno â'r CPLlL ar unrhyw adeg tra byddwch yn parhau i fod yn gynghorydd cymwys.
Os ydych yn dewis gadael y CPLlL fwy nag unwaith, cewch ailymuno â chaniatâd eich cyngor yn unig, oni bai eich bod yn dewis ailymuno â'r Cynllun cyn pen tri mis o ddechrau fel cynghorydd cymwys gyda chyngor newydd. Gallwch ofyn i'ch cyngor egluro'i bolisi ar y mater hwn.