Buddion Marwolaeth
Os byddwch farw ar ôl ymddeol, ni fydd eich buddion yn daladwy mwyach. Rhaid i'ch priod, eich partner sifil cofrestredig, y partner cymwys sy'n cyd-fyw â chi, eich perthynas agosaf neu'r sawl sy'n ymdrin â'ch Ystad, hysbysu Cronfa Bensiwn Dyfed yn syth am eich marwolaeth, er mwyn atal talu gormod o bensiwn ichi. Mae'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yn sicrhau bod eich goroeswyr yn cael eu diogelu rhag colled incwm yn syth.
Grant Marwolaeth ar ffurf Lwmp Swm
Os oeddech wedi ymddeol ar 1 Ebrill 2008 neu ar ôl hynny, telir grant marwolaeth ar ffurf cyfandaliad os byddwch farw ac ydych o dan 75 mlwydd oed.
Bydd y swm sy'n daladwy yn 10 gwaith gwerth eich pensiwn blynyddol, namyn unrhyw swm a dalwyd eisoes h.y. balans eich pensiwn blynyddol dros 10 mlynedd. Os oeddech wedi ymddeol ar 1 Ebrill 2008 neu ar ôl hynny a'ch bod wedi derbyn eich pensiwn am 10 mlynedd, NI thelir Grant Marwolaeth ar ffurf Lwmp Swm os byddwch yn marw.
Os oeddech wedi ymddeol ar 31 Mawrth 2008 neu cyn hynny, mae'r Grant Marwolaeth sy'n daladwy ar eich marwolaeth yn 5 gwaith gwerth eich pensiwn blynyddol, namyn unrhyw swm a dalwyd eisoes h.y. balans eich pensiwn blynyddol dros 5 mlynedd, felly, NI thelir Grant Marwolaeth ar ffurf Lwmp Swm.
Dalier Sylw
Gallwch enwebu unigolyn / unigolion neu sefydliad / sefydliadau i dderbyn eich grant marwolaeth. I wneud hynny, mae angen ichi fynegi dymuniad ynghylch y grant marwolaeth drwy lenwi'r ffurflen briodol. Fel arall, gallwch ddiweddaru'r dymuniad a fynegwyd gennych gan ddefnyddio'r gwasanaeth Fy Mhensiwn Ar-lein. Os NAD ydych wedi enwebu rhywun, caiff y grant marwolaeth ei dalu fel arfer i'ch Ystad neu i'ch Cynrychiolwyr Personol.
Mae gan Gronfa Bensiwn Dyfed ddisgresiwn llwyr o ran i bwy telir y grant marwolaeth. Os bydd anghytuno, telir y grant i'ch Ystad neu i'ch Cynrychiolwyr Personol.
Cofiwch y bydd angen ichi sicrhau bod eich dymuniad ynghylch y grant marwolaeth yn gyfredol bob amser.