Os ydych yn dymuno ymddeol o 55 oed, neu os ydych yn credu y gallech fod yn gymwys i ymddeol ar sail salwch, dylech gysylltu â'ch Cyflogwr yn y lle cyntaf. Os, wedi ystyried y mater yn ofalus, y byddwch yn penderfynu mynd rhagddo, bydd eich Cyflogwr yn cysylltu gyda Gronfa Bensiwn Dyfed a bydd y weithdrefn ar gyfer prosesu eich ymddeoliad yn dechrau. Rydych yn gallu wneud cais am Amcangyfrif o'ch budd-daliadau o'r Gronfa, os ydych o fewn 6 mis i'ch dyddiad ymddeol arfaethedig.
Fel arall, os ydych wedi cofrestru i wasanaeth Fy Mhensiwn Ar-lein, byddwch yn gallu amcangyfri gwerth eich budd-daliadau ar eich dyddiad ymddeol arfaethedig, ar unrhyw adeg.
Pa wybodaeth sydd angen i brosesu fy mudd-daliadau?
Bydd eich Cyflogwr yn darparu yr holl gwaith papur angenrheidiol i Gronfa Bensiwn Dyfed. Ar ôl derbyn y wybodaeth hyn, bydd y Gronfa yn cysylltu'n uniongyrchol gyda chi. Byddwch yn derbyn eich opsiynau ymddeol ac yna bydd angen i chi ddychwelyd eich datganiad cyn gynted ag phosibl er mwyn i'ch budd-daliadau i gael ei brosesu mewn modd amserol.
Bydd gofyn i chi ddarparu copi o'ch Tystysgrif Geni, ac os yn berthnasol, gopi o'ch Tystysgrif Priodas, Datganiad Partneriaeth Sifil neu copi o'ch Archddyfarniad Absoliwt (os ydych wedi ysgaru neu mae eich partneriaeth sifil wedi'i diddymu). Mae gofyn i chi hefyd, os ydych yn briod neu'n bartner sifil datgan, darparu copi o dystysgrif geni eich priod neu eich partner sifil. Os yn gwraig weddw neu'n ŵr weddw, dylech ddarparu copi o dystysgrif marwolaeth eich priod / partner sifil.
Mae angen manylion eich cyfrif Banc / Cymdeithas Adeiladu ar gyfer holl daliadau gael eu gwneud. Rydych yn gallu talu unrhyw lwmp swm di-dreth i gyfrif wahanol i'r o'ch pensiwn blynyddol. Byddwch yn cael yr opsiwn i gyflwyno manylion cyfrif ar wahân o fewn eich pecyn ymddeol.
Dalier Sylw
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynghylch eich dewisiadau wrth ymddeol, cysylltwch â Chronfa Bensiwn Dyfed.