Treth Incwm
Mae'n rhaid talu Treth Incwm – Talu wrth Ennill (TWE) ar bensiynau, ac yn ôl y gyfraith, mae'n ofynnol i'r Gronfa gydymffurfio â'r hysbysiad codau a roddir gan Gyllid a Thollau ei Mawrhydi (CThEM).
Pan fyddwch yn ymddeol, dylai eich cyn-Gyflogwr anfon eich P45 i'r Gronfa. Byddwn yn gweithredu y côd treth o'r P45 ar sail Mis 1, nes i CThEM hysbysu côd priodol newydd.
Os nad yw eich cod treth yn hysbys ar unwaith, gweithredwyd cod 0T (dim lwfans di-dreth) fel mesur dros dro.
Dylid cyfeirio pob ymholiad ynghylch codau treth incwm at Gyllid a Thollau ei Mawrhydi:
Ffôn: 0300 200 1900
I gael ateb i'ch cwestiwn, bydd yn rhaid ichi roi eich cyfenw, eich Rhif Yswiriant Gwladol a cyfeirnod Cronfa Bensiwn Dyfed, sef: 615 / D6065C.