Mae Gronfa Bensiwn Dyfed yn cymryd rhan mewn trefniant rhannu data gyda chronfeydd pensiynau CPLlL eraill yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Mae hyn yn cael ei wneud er mwyn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a gynhwysir yn y rheoliadau sy'n llywodraethu'r CPLlL.
Mae darpariaethau a geir yn Rheoliadau CPLlL 2013 yn golygu, os bydd aelod o'r CPLlL yn marw, mae angen i weinyddwyr y cynllun wybod os oedd gan yr unigolyn gyfnodau eraill o aelodaeth CPLlL mewn rhannau eraill o'r wlad, fel y gall y buddion marwolaeth gywir cael eu cyfrifo a’u talu i ddibynyddion yr aelod ymadawedig.
Gan fod y CPLlL yn cael ei weinyddu yn lleol, mae gan bob Cronfa Bensiwn cofnodion aelodaeth eu hun ac mae'n gallu bod yn anodd dweud os oes gan unigolyn cofnodion CPLlL eraill a lle mae'r rhain yn cael eu cynnal. Er mwyn cydymffurfio â'r gofynion a nodir uchod, mae Bas Data cenedlaethol wedi cael ei ddatblygu a fydd yn galluogi cronfeydd i wirio a oes gan eu haelodau gofnodion pensiynau CPLlL mewn cronfeydd pensiwn eraill.
-
Pa ddata sy'n cael ei rannu?
Ar gyfer pob aelod o’r CPLlL (boed yn actif, gohiriedig neu bensiynwr), mae’r Bas Data yn dangos rhif Y.G. yr unigolyn, statws aelodaeth yr unigolyn, y flwyddyn galendr diwethaf fod statws aelodaeth wedi newid, a rhif pedwar digid yn cadarnhau'r Gronfa Bensiwn CPLlL lle mae record yr aelod yn cael ei gynnal.
-
Pwy sy’n cynnal y Bas Data?
Mae’r Bas Data yn cael ei gynnal gan Awdurdod Pensiynau De Swydd Efrog, sy’n Gronfa Bensiwn CPLlL.
-
Sut y bydd y data a gedwir ar y Bas Data yn cael ei brosesu?
Bydd y data a gedwir ar y Bas Data yn cael ei brosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 1998 a deddfwriaeth berthnasol eraill.
-
A oes unrhyw ddibenion eraill y bydd y Bas Data yn cael ei ddefnyddio ar gyfer?
Bydd detholiad o'r wybodaeth aelodaeth a gynhwysir yn y Bas Data yn cael ei rannu gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau (AGPh) o dro i dro fel y gall y CPLlL ymuno â'r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith (DWU). Mae’r gwasanaeth DWU yn cael ei gynnig ar draws rhan fwyaf o'r wlad pan fydd unigolyn yn cofrestru marwolaeth. Pan fydd y CPLlL yn ymuno gyda DWU a marwolaeth aelod o'r CPLlL yn cael ei gofrestru, bydd y systemau AGPh yn sicrhau bod y Gronfa Bensiwn CPLlL yn cael gwybod am y farwolaeth, sy'n golygu y gall cofnodion yr aelod cael ei brosesu yn gynt nag y byddai fel arall.
-
Gyda phwy a rennir y data?
Cronfeydd pensiwn CPLlL eraill. Mae'r rhain yn gyrff cyhoeddus a enwir yn y ddeddfwriaeth fel awdurdodau gweinyddu’r CPLlL. Ar gyfer y gwasanaeth DWU, bydd detholiad o Rifau Y.G. unigolion o’r Bas Data yn cael ei rannu yn ddiogel gyda AGPh bob mis er mwyn iddynt gadw cofnod cyfredol o aelodaeth y CPLlL.
-
Am ba mor hir bydd y rannu data yn cael ei wneud?
Am gyhyd ag a) bod gofynion rheoleiddio perthnasol yn parhau i fod, ac b) bod y CPLlL yn cymryd rhan yn y gwasanaeth DWU. Os ni fydd un o'r uchod yn berthnasol, yna bydd y rhannu data yn dod i ben.
-
A allaf optio allan o’r rhannu data?
Na. Gan fod y rannu data yn cael ei wneud yn rhannol i gydymffurfio â gofyniad cyfreithiol, NID yw'n bosibl i aelodau'r cynllun optio allan o'r rhannu data.