Trosglwyddo eich Buddion

Pan fyddwch yn gadael swydd Llywodraeth Leol ac mae gennych fudd-daliadau gohiriedig yn y CPLlL, gallwch ddewis naill ai eu gadael yn y Cynllun lle y byddant yn cynyddu gyda chwyddiant bob blwyddyn, neu eu trosglwyddo i gynllun Cyflogwr newydd neu i gynllun pensiwn personol. Gall hyd yn oed fod i gynllun pensiwn Tramor.

Ni allwch drosglwyddo eich budd-daliadau os oes llai na blwyddyn nes y byddwch yn cyrraedd eich Oedran Pensiwn Arferol (OPA), naill ai o dan CPLlL 2007 neu CPLlL 2013, yn dibynnu ar p'un a ydych wedi gadael y cynllun cyn neu ar ôl 1 Ebrill 2014.

Sut y gallaf drosglwyddo fy mudd-daliadau gohiriedig?

Os ydych yn dymuno trosglwyddo budd-daliadau o’r CPLlL rhaid i chi gysylltu â’ch darparwr pensiwn newydd a gofyn am ddyfynbris o’r gwerth a drosglwyddir. Dan Ddeddf Pensiynau 1995, rhaid i ddyfynbris fod yn warantedig am 3 mis o’r dyddiad y cafodd ei gyfrif. Cyn trosglwyddo eich buddion CPLlL i drefniant Cyfraniadau Diffiniedig, bydd RHAID bod chi wedi cael cyngor gan Ymgynghorydd Ariannol Annibynnol (YAA) sydd wedi ei awdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (AYA).

Ailymuno â’r CPLlL gyda Chronfa Bensiwn Llywodraeth Leol arall

Os ydych yn ail-ymuno â neu eisoes wedi ail-ymuno â'r CPLlL mewn Cronfa arall yng Nghymru neu Loegr, mae'n rhaid i chi:

a) hysbysu'r awdurdod gweinyddu'r Gronfa yr ydych yn aelod actif ohono eich bod gyda buddion gohiriedig mewn Cronfa CPLlL arall yng Nghymru neu Loegr;

b) hysbysu'r Gronfa ble mae eich buddion gohiriedig yn cael eu cadw eich bod yn aelod actif yn y Gronfa CPLlL arall yng Nghymru neu Loegr, ac;

c) hysbysu'r awdurdod gweinyddu'r Gronfa yr ydych yn aelod actif ohono o unrhyw wasanaeth cyfamserol mewn unrhyw gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus eraill (hyd yn oed os yw ad-daliad o gyfraniadau wedi ei dderbyn mewn perthynas â'r gwasanaeth).

Mae eitemau (a) a (b) yn ofynnol i sicrhau eich bod yn cael y dewisiadau priodol ynghylch cyfuno eich buddion. Mae methu â chydymffurfio ac eitem (c) yn gallu arwain at beidio cymhwyso rhai hawliau statudol i'ch amgylchiadau, e.e. cyswllt cyflog terfynol os byddwch yn penderfynu cyfuno unrhyw aelodaeth CPLlL cyn Ebrill 1 2014.

Dalier Sylw

Os trosglwyddir y budd-daliadau NI fydd gennych hawl i unrhyw fudd-daliadau CPLlL pellach ar gyfer eich hun nac unrhyw ddibynyddion.

Os ydych chi'n ystyried trosglwyddo'ch pensiwn budd diffiniedig ac eisiau deall y broses, neu os ydych chi wedi trosglwyddo'ch budd-daliadau ac yn aneglur a wnaethoch chi gael cyngor o ansawdd da, mae'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) wedi cyhoeddi fideo i ddarparu fwy o wybodaeth i chi.

Os ydych yn ystyried trosglwyddo'ch buddion CPLlL i drefniant pensiwn preifat, DARLLENWCH Y WYBODAETH HYN GYNTAF.