Salwch

Cewch ofyn i'ch cyn Gyflogwr dalu eich budd-daliadau gohiriedig yn ddi-oed ar sail afiechyd, os ydych wedi bod yn aelod am o leiaf 2 flynedd neu wedi trosglwyddo buddiannau i'r CPLlL.

Os yw'r Ymarferydd Meddygol Cofrestredig Annibynnol a benodwyd gan eich cyn Gyflogwr yn tystio nad oes modd ichi gyflawni dyletswyddau eich cyn-gyflogaeth, a'ch bod yn llai tebygol o gael eich cyflogi yn rhywle arall, mae gennych hawl i dderbyn eich budd-daliadau gohiriedig ar unwaith.

Dalier Sylw

Dylech nodi y bydd eich budd-daliadau gohiriedig yn cael eu rhyddhau HEB ychwanegiad ar sail afiechyd.