Os ydych wedi gadael Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) ar neu arôl 1 Ebrill 2014, a fe dechreuwyd yn y cynllun ar neu cyn 31 Mawrth 2014, bydd eich aelodaeth hyd at 31 Mawrth 2014 wedi cael ei gyfrifo yn unol â'ch cyflog pensiynadwy llawn amser ar eich dyddiad gadael neu dyddiad optio allan.
Eich Aelodaeth o'r Cynllun
Mae cyfanswm eich aelodaeth yn cael ei fesur mewn blynyddoedd a diwrnodau ac yn cynnwys y cyfnod o amser yr ydych wedi bod yn aelod o'r CPLlL, yn ogystal ag unrhyw aelodaeth a ddaeth o drosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i'r cynllun.
Os oeddech yn gweithio'n rhan amser yn ystod y cyfnodau hyn, bydd cyfanswm eich aelodaeth wedi cael ei addasu'n briodol yn unol â'r oriau rhan amser.
Eich Tâl Terfynol
Dyma swm y tâl pensiynadwy a gawsoch yn ystod eich blwyddyn olaf o gyflogaeth h.y. 365 diwrnod yn ôl o'ch dyddiad gadael. Fodd bynnag, mae modd seilio eich tâl terfynol ar un o'r ddwy flynedd flaenorol, os yw'n uwch.
Os ydych yn gweithio'n rhan-amser, bydd eich tâl terfynol yn cael ei gyfrifo fel y tâl llawn amser.
Noder y bydd goramser angytundebol DDIM yn cael eu cynnwys yn y cyfrifiad o'ch tâl terfynol.
Cyfrifo eich Buddion Gohiriedig
Ar gyfer aelodaeth hyd at 31 Mawrth 2008, bydd eich buddion yn cael eu cyfrifo ar 80fed, gyda hawl i lwmp swm awtomatig, sy'n cyfateb i 3 gwaith eich pensiwn blynyddol:
Aelodaeth ÷ 80 x Tâl Terfynol = Pensiwn Blynyddol
Ar gyfer aelodaeth o 1 Ebrill 2008 i 31 Mawrth 2014, mae'r gyfradd wedi ei osod fel 60fed, ond HEB hawl i gyfandaliad awtomatig.
Aelodaeth ÷ 60 x Tâl Terfynol = Pensiwn Blynyddol
Bydd cyfanswm eich pensiwn 80fed â'ch pensiwn 60fed yn hafal i gyfanswm eich Pensiwn Gohiriedig Blynyddol, a bydd gennych elfen y lwmp swm awtomatig mewn perthynas â'ch aelodaeth cyn 31 Mawrth 2008
Fodd bynnag, bydd hefyd gennych yr opsiwn i ildio rhywfaint o'ch pensiwn i gynyddu eich lwmp swm awtomatig / neu i greu rhyw faint o arian di-dreth os dechreuwyd yn y cynllun ar neu arôl 1 Ebrill 2008.
Dalier Sylw
Fe bydd eich buddion gohiriedig yn cael eu ailbrisio pob mis Ebrill yn ol y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI).