Sgamiau Pensiwn

Gwyliwch rhag gam Rhyddhau Pensiwn

Mae pob cynllun pensiwn yn cael ei reoli gan reoliadau sy'n nodi pryd a sut y gallwch hawlio eich buddion pensiwn, ac mae hynny'n diogelu eich buddion tan y byddwch chi'n ymddeol.

O dan reoliadau presennol y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, mae modd ichi ymddeol yn wirfoddol ar ôl ichi gyrraedd eich 55 oed, er y gellir talu eich buddion yn gynharach oherwydd afiechyd (yn amodol ar dystysgrif gan Ymarferydd Meddygol Cofrestredig Annibynnol a benodwyd gan eich gyn Cyflogwr).

Felly byddwch yn ofalus iawn os bydd cwmni'n cysylltu â chi’n cynnig cynllun rhyddhau pensiwn. Hynny yw, cynllun y maen nhw'n honni y bydd yn caniatáu ichi hawlio eich pensiwn yn gynnar.

Peidiwch â chael eich twyllo gan eu honiadau y gallan nhw eich helpu i hawlio eich pensiwn yn gynnar oherwydd dihangdwll cyfreithiol, NID felly y mae.

Os dewiswch drosglwyddo eich buddion o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol i un o'r cynlluniau hyn, gwyliwch rhag y ffioedd a'r taliadau y gellir eu codi ar y pensiwn sydd gennych. Hefyd efallai y bydd treth drom i'w thalu, gan ichi hawlio eich buddion cyn y dylech. O ganlyniad mae'n bosibl y collwch y rhan fwyaf o'r pensiwn sydd gennych neu'r cyfan ohono hyd yn oed. Felly peidiwch â chael eich dal gan y sgam bensiwn hon!

Ystyriwch ofyn am Gyngor Ariannol Annibynnol bob amser cyn penderfynu trosglwyddo eich buddion o'r CPLlL.