Os ydych yn marw ac yn aelod gohiriedig o’r CPLlL, rhaid i’ch gwraig weddw neu ŵr gweddw, partner sifil cofrestredig neu bartner sy’n cyd-fyw a enwebwyd / partner cymwys, y berthynas agosaf neu’r sawl sy’n delio â’ch Ystâd hysbysu Gronfa Bensiwn Dyfed yn ddiymdroi.
Mae yna cyfandaliad grant marwolaeth yn daladwy os byddwch yn marw fel aelod gohiriedig o’r Cynllun. Fodd bynnag, bydd graddfa y grant marwolaeth sy’n daladwy yn dibynnu a oeddech wedi gadael y Cynllun cyn neu arôl 1 Ebrill 2008.
Gallwch enwebu unigolyn / unigolion neu sefydliad / sefydliadau i dderbyn eich grant marwolaeth. I wneud hynny, mae angen ichi fynegi dymuniad ynghylch y grant marwolaeth drwy lenwi'r ffurflen briodol. Fel arall, gallwch ddiweddaru'r dymuniad a fynegwyd gennych gan ddefnyddio gwasanaeth Fy Mhensiwn Ar-lein. Os NAD ydych wedi enwebu rhywun, caiff y grant marwolaeth ei dalu fel arfer i'ch Ystad neu i'ch Cynrychiolwyr Personol.
Wedi gadael ar neu cyn 31 Mawrth 2008?
Os oeddech wedi gadael y Cynllun ar neu cyn 31 Mawrth 2008, byddai’r grant marwolaeth sy'n daladwy mewn perthynas â'ch buddion gohiriedig yn 3 gwaith gwerth eich pensiwn gohiriedig ar ddyddiad eich marwolaeth h.y. gwerth eich lwmp sum awtomatig.
Wedi gadael ar neu arôl 1 Ebrill 2008?
Os oeddech wedi gadael y Cynllun ar neu arôl 1 Ebrill 2008, byddai’r grant marwolaeth sy'n daladwy mewn perthynas â'ch buddion gohiriedig yn 5 gwaith gwerth eich pensiwn gohiriedig ar ddyddiad eich marwolaeth.
-
Buddion Goroeswyr
Mae'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn darparu ar gyfer goroeswyr os bydd aelod gohiriedig yn marw. Os gadawsoch y cynllun ar 31 Mawrth 2008 neu cyn hynny, mae pensiwn Goroeswr yn daladwy'n awtomatig i'ch Priod (yn cynnwys priod yr un rhyw), i'ch Partner Sifil Cofrestredig, Partner Cymwys Cyd-fyw, ynghyd ag unrhyw blant cymwys sydd gennych. Os gadawsoch y cynllun ar 1 Ebrill 2008 neu ar ôl hynny, mae pensiwn goroeswr hefyd yn daladwy'n awtomatig i bartner cymwys sy'n cyd-fyw â chi, yn amodol ar fodloni rhai amodau cymhwyso.
Mae'r pensiwn goroeswr a delir i'ch priod, i'ch partner sifil cofrestredig neu i'ch partner cymwys sy'n cyd-fyw â chi, yn amodol ar fodloni rhai amodau cymhwyso, yn daladwy am weddill oes y goroeswr.
Er mwyn talu pensiwn goroeswr i'ch Partner Cymwys sy'n Cyd-fyw â chi, mae'n rhaid eich bod wedi bodloni'r amodau canlynol i gyd am gyfnod parhaus o ddwy flynedd neu ragor cyn eich marwolaeth:
- eich bod yn rhydd i briodi neu i gytuno i lunio partneriaeth sifil â'ch gilydd;
- eich bod wedi bod yn cyd-fel gŵr a gwraig neu bartneriaid sifil;
- nid yw'r naill na'r llall ohonoch wedi bod yn cyd-fyw â rhywun arall fel gŵr a gwraig neu bartneriaid sifil;
- rydych yn ddibynnol yn ariannol ar y naill a'r llall neu yn rhyng-ddibynnol yn ariannol.
Dalier Sylw
Os gadawsoch y cynllun ar 31 Mawrth 2008 neu cyn hynny, NI FYDD pensiwn goroeswr yn daladwy i bartner cymwys sy'n cyd-fyw â chi.
-
Pensiynau Plant
Os bydd aelod gohiriedig o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yn marw gan adael un neu fwy o Blant Cymwys, mae ganddynt hawl i bensiwn plentyn, a fydd yn cael eu talu ar y diwrnod yn dilyn marwolaeth yr aelod.
Mae pensiynau plant yn daladwy i'r rhiant sy'n goroesi neu i'r gwarcheidwad cyfreithiol y plentyn nes eu bod yn 18 oed. Gall plentyn cymwys fod yn blentyn cyfreithiol, anghyfreithiol, wedi’i fabwysiadu neu’n blentyn sydd wedi’i dderbyn yn aelod o’r teulu ac yn ddibynnol ar yr aelod pan oedd yn cyfrannu i’r Cynllun.
Rhoddir ystyriaeth arbennig i blentyn sydd yng ngofal rhiant sy'n goroesi a gwarcheidwad pan fo'n blentyn dibynnol o unrhyw oedran sy'n anabl yn gorfforol neu’n feddyliol ac wedi bod felly cyn ei fod yn 18 oed. Bydd y pensiwn yn daladwy cyhyd ag y pery’r anabledd.
Gellir talu pensiynau i blant dros 18 oed os ydynt yn derbyn addysg amser llawn barhaus neu’n mynychu cwrs hyfforddiant cymeradwy sy'n para am o leiaf 2 flynedd.
Dalier Sylw
Nodir os gwelwch yn dda, bod pensiynau plant yn daladwy hyd nes y bydd uchafswm oedran o 23.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Chronfa Bensiwn Dyfed.
Dalier sylw
Mae gan Gronfa Bensiwn Dyfed ddisgresiwn llwyr ynglŷn a pwy bydd yn derbyn y cyfandaliad grant marwolaeth. Mewn achos o anghydfod, bydd yr arian yn cael ei dalu i'ch Ystâd neu Cynrychiolwyr Personol.
Cofiwch y bydd angen ichi sicrhau bod eich dymuniad ynghylch y grant marwolaeth yn gyfredol bob amser.
Ffurflen Mynegi Dymuniad Grant Marwolaeth