Absenoldeb o'r Gwaith
Gall cyfnodau o absenoldeb di-dâl effeithio ar y modd y byddwch yn crynhoi pensiwn dan Gynllun 2015.
Bydd gennych y dewis i wneud i’r canlynol gyfrif tuag at grynhoi eich pensiwn ar yr amod nad ydych wedi dewis eithrio a’ch bod yn talu’r cyfraniadau pensiwn a fyddai’n ddyledus fel arall:
- Absenoldeb mabwysiadu di-dâl;
- Absenoldeb mamolaeth di-dâl;
- Absenoldeb rhiant di-dâl:
- Absenoldeb cefnogi mamolaeth di-dâl;
- Absenoldeb cefnogi mabwysiadu di-dâl;
- Absenoldeb salwch di-dâl am 6 mis neu lai (yn amodol ar gyfanswm oes o 12 mis).
Os dymunwch dalu cyfraniadau am gyfnod o absenoldeb di-dâl, rhaid i chi hysbysu’r Llu Heddlu cyn pen 3 mis o ddychwelyd i’r gwaith, neu erbyn y dyddiad y byddwch yn gadael y Llu Heddlu os bydd hynny’n gynt. Rhaid i’r cyfraniadau gael eu talu cyn pen 6 mis o’r dyddiad y bydd y Llu Heddlu yn rhoi gwybod i chi beth yw’r swm i’w dalu.
Dalier Sylw
Ni ellir talu cyfraniadau pensiwn o ran seibiant gyrfa di-dâl. NI fydd unrhyw gyfnodau o amser pan fyddwch wedi dewis optio allan o Gynllun 2015 yn cyfrif tuag at eich crynhoad pensiwn.