Cynllun Pensiwn Heddlu

Cyfrifo eich Buddion

Os oes gennych ddwy flynedd o leiaf o Wasanaeth Cymwys a’ch bod yn Aelod Gweithredol o Gynllun 2015 byddwch yn gallu ymddeol o’ch oedran pensiwn arferol (OPA) (neu o’ch oedran pensiwn isaf arferol (OPIA) ond bydd hyn yn ddarostyngedig i Ostyngiad Actiwaraidd) gyda phensiwn ar unwaith. Rhaid i aelod gweithredol sydd yn bwriadu ymddeol hawlio taliad y pensiwn, gan roi mis o rybudd ysgrifenedig o leiaf.

Mae gwasanaeth cymwys yn golygu hyd calendr unrhyw gyfnod parhaus o wasanaeth pensiynadwy dan Gynllun 2015 (heb gynnwys unrhyw fwlch mewn gwasanaeth, unrhyw seibiant gyrfa neu unrhyw gyfnod o wyliau di-dâl), ac unrhyw wasanaeth pensiynadwy blaenorol neu waith yr ydych wedi ei drosglwyddo i Gynllun 2015 ac, os yw’n berthnasol, eich cyfnod o wasanaeth pensiynadwy dan Gynllun 1987 neu Gynllun 2006.

  • Gwasanaeth Pensiynadwy
  • Enillion Pensiynadwy
  • Cyfrif Pensiwn
  • Cyfnewid eich Pensiwn

Dalier Sylw

Os byddwch wedi cyrraedd OPIA a bod gennych hawl i hawlio eich pensiwn yn gynnar a’ch bod naill ai yn aelod gweithredol nad yw wedi cyrraedd OPA neu yn aelod gohiriedig nad yw wedi cyrraedd eich OPA, gallwch ddewis prynu o’r 'gostyngiad actiwaraidd' a fyddai wedi bod yn berthnasol fel arall wrth gyfrifo eich pensiwn blynyddol.

Os byddwch chi yn dewiswch gwneud hyn, gall y taliad i brynu’r gostyngiad actiwaraidd gael ei wneud gennych chi, gan eich Llu Heddlu neu ei rannu rhyngoch chi a'r Llu Heddlu. Bydd cost o brynu’r gostyngiad taliad cynnar allan yn cael ei bennu gan y Llu Heddlu yn unol â chyfarwyddyd actiwaraidd.