Cynllun Pensiwn Heddlu

Cipolwg o'r Cynllun

Nodweddion allweddol Cynllun 2015:

  • Mae Cynllun 2015 yn gynllun pensiwn Enillion Cyfartalog Gyrfa wedi eu Hailbrisio (CARE). Mae hyn yn golygu, ar gyfer pob blwyddyn yr ydych yn Aelod Gweithredol, y byddwch yn ennill ffracsiwn o’ch Enillion Pensiynadwy (1/55.3fed) am y flwyddyn honno fel pensiwn a enillwyd a bydd hyn yn cael ei ailbrisio ar gyfer pob blwyddyn ddilynol nes byddwch yn ymddeol.
  • Byddwch yn gallu cymudo rhan (hyd at 25%) o’ch pensiwn ar gyfradd o 1:12; felly am bob £1 o bensiwn y byddwch yn ei ildio byddwch yn derbyn cyfandaliad o £12.
  • Tra byddwch yn Aelod Gweithredol, y gyfradd ailbrisio a ddefnyddir ar ddiwedd pob Blwyddyn Cynllun (31 Mawrth) ar y pensiwn a enillwyd a grynhowyd ar gyfer y flwyddyn honno yw’r symudiad yn y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) + 1.25%.
  • Yr Oedran Pensiwn Arferol (OPA) yw 60 oed, ond yr Oedran Pensiwn Isaf Arferol (OPIA) yw 55 oed.
  • Mae gennych y dewis o ymddeol ar unrhyw adeg ar ôl yr OPIA ac i gael eich pensiwn ar unwaith; os byddwch yn penderfynu ymddeol gyda thaliad pensiwn yn union ar ôl eich OPIA a chyn eich OPA, bydd eich buddion Cynllun 2015 yn cael eu gostwng yn actiwaraidd trwy gyfeirio at yr OPA.
  • Gallwch barhau yn Aelod Gweithredol o Gynllun 2015 cyn hired ag y dymunwch (nid oes uchafswm ar y cyfnod gwasanaeth). Os byddwch yn penderfynu parhau i wasanaethu tu hwnt i’r OPA, bydd cynnydd actiwaraidd yn cael ei weithredu ar eich pensiwn gan y bydd yn cael ei dalu yn hwyrach nag y byddai dan amgylchiadau arferol.
  • Mae grant marwolaeth cyfandaliad yn daladwy. Mae’r taliad yn 3 gwaith eich Cyflog Terfynol os oedd cyfnod eich gwasanaeth yn 12 mis o leiaf (fel arall mae’n 3 gwaith eich cyflog terfynol ar raddfa flynyddol).
  • Os byddwch yn marw tra byddwch yn dal yn aelod o Gynllun 2015, telir pensiwn i'ch priod neu bartner sifil am weddill ei oes/ei hoes. Gall partner nad yw’n briod nac yn bartner sifil fod â hawl i daliad pensiwn am oes, yn amodol ar fodloni rhai meini prawf.
  • Gall plant cymwys dan 23 oed fod yn gymwys i gael pensiwn.
  • Os byddwch yn crynhoi hawliau yng Nghynllun 2015 ond yn gadael y llu heddlu (neu yn dewis eithrio o Gynllun 2015), heb gymryd pensiwn nac ad-daliad o’ch cyfraniadau, bydd gennych hawl i Bensiwn Gohiriedig yn daladwy o’ch Oedran Pensiwn y Wladwriaeth (OPW), a gall newid yn y dyfodol. Mae’n bosibl i Bensiynau Gohiriedig (sy’n daladwy yn llawn ar eich OPW) gael eu talu yn gynnar os gofynnir amdanynt, ond bydd hyn yn ddarostyngedig i ostyngiad actiwaraidd i adlewyrchu eu bod yn cael eu talu yn gynharach ac am gyfnod hwy.
  • Ar hyn o bryd, cyfyngir prynu pensiwn ychwanegol (lle gallwch chi gynyddu eich pensiwn trwy dalu cyfraniadau ychwanegol) i £6,500 y flwyddyn. Gall y cyfyngiad gael ei newid gan Drysorlys EM (HMT). (Nid oes gan Gynllun 2015 drefniant Cyfraniad Ychwanegol Gwirfoddol (CGY) ffurfiol, ond mae gennych y dewis o wneud cyfraniadau i gynllun pensiwn personol ar wahân).