Cynllun Pensiwn Heddlu

Buddion Marwolaeth

Os byddwch yn marw tra byddwch yn aelod gweithredol (a bod eich gwasanaeth am 12 mis o leiaf), bydd cyfandaliad grant marwolaeth o 3 gwaith eich Enillion Pensiynadwy blynyddol ar adeg eich marwolaeth (Cyflog Terfynol) yn cael ei dalu:

  • i’ch priod neu bartner sifil sy’n goroesi;
  • os nad oes gennych briod, neu bartner sifil yn ôl disgresiwn y Llu Heddlu, i bartner a ddatganwyd;
  • os nag oes gennych briod, partner sifil, na phartner a ddatganwyd yn ôl disgresiwn y Llu Heddlu, i unigolyn a enwebwyd gennych chi;
  • fel arall, i’ch cynrychiolydd cyfreithiol personol – Ysgutor eich Ewyllys fel arfer – a bydd felly yn rhan o’ch Ystâd.

Os dymunwch enwebu rhywun i gael eich cyfandaliad grant marwolaeth, dylech lenwi ffurflen Mynegi Dymuniad Grant Marwolaeth (y gallwch ei chael gan eich gweinyddwr pensiynau). Nid yw enwebiad yn drech na’r ddarpariaeth y bydd y grant yn mynd i briod sy’n goroesi, partner sifil neu bartner a ddatganwyd, os oes gennych un, ond fe fyddai’n dod i rym os nad oes gennych briod, partner sifil na phartner a ddatganwyd neu petaech chi a’ch priod, partner sifil neu bartner a ddatganwyd yn marw ar yr un pryd.

Sylwer nad yw enwebiad am gyfandaliad grant marwolaeth yr un fath â datganiad partner a ddatganwyd. Mae’r enwebiad ar gyfer cyfandaliad grant marwolaeth yn ymwneud yn unig â thalu’r grant hwnnw.

Enghraifft

Mae aelod rhan-amser o’r Llu Heddlu yn marw tra bydd yn aelod o Gynllun 2015. Pan fu hi/ef farw roedd ei H/Enillion Pensiynadwy blynyddol yn £8,400 y flwyddyn a’i g/chyflog cyfatebol llawn amser yn £21,000 y flwyddyn.

Y cyfandaliad grant marwolaeth fyddai’n daladwy ar ei f/marwolaeth fyddai £8,400 × 3 = £25,200.

  • Buddion Goroeswyr
  • Pensiynau Plant

Dalier Sylw

Os ydych yn gweithio rhan-amser, bydd y cyfandaliad 3 gwaith eich Enillion Pensiynadwy blynyddol (Cyflog Terfynol) a delir i chi am eich gwaith rhan-amser.