Cynllun Pensiwn Heddlu

Gadael y Cynllun

Os byddwch yn gadael y Llu Heddlu tra yn aelod gweithredol o'r Cynllun 2015, neu os ydych yn dewis optio allan o'r cynllun cyn ymddeol, mae yna nifer o opsiynau ar gael i chi.

Gallwch ddewis optio allan o Gynllun 2015 ar unrhyw adeg trwy anfon Datganiad Optio Allan i’ch Llu Heddlu. Os byddwch chi’n dewis optio allan yn y 3 mis cyntaf ar ôl ymuno â’r Llu Heddlu, mae eich penderfyniad yn cael ei ôl-ddyddio i’r dyddiad y daethoch yn aelod o’r Llu Heddlu.

Os byddwch yn dewis optio allan o Gynllun 2015 gyda llai na 2 flynedd o wasanaeth cymwys ac nad ydych wedi trosglwyddo unrhyw wasanaeth i mewn, bydd eich cyfraniadau pensiwn yn cael eu had-dalu. I'r gwrthwyneb, os byddwch yn cronni 2 flynedd neu fwy o wasanaeth cymwys ac yna'n gadael, bydd eich budd-daliadau yn cael ei ohirio h.y. buddion Gohiriedig.

Os byddwch yn dewis gadael Cynllun 2015 ar unrhyw ddyddiad yn y dyfodol, bydd eich penderfyniad yn dod i rym o ddechrau eich cyfnod tâl nesaf ar ôl i’ch Llu Heddlu dderbyn eich datganiad optio allan neu ar unrhyw ddyddiad wedyn y mae eich Llu Heddlu yn ei ystyried yn addas.

Os byddwch yn dewis optio allan o Gynllun 2015 gallwch ail-ymuno os dymunwch. Gall hyn fod yn amodol ar archwiliad meddygol, ar eich traul chi, i benderfynu a fyddwch yn gymwys i gael buddion afiechyd.

  • Ad-daliad o Chyfraniadau
  • Buddion Gohiriedig
  • Ail-Ymuno a'r Cynllun
  • Trosglwyddo eich Buddion

Dalier Sylw

Os ydych yn ystyried optio allan o Gynllun 2015, argymhellir yn gryf i chi gymryd Cyngor Ariannol Annibynnol cyn i chi wneud penderfyniad.