Cyfraniadau
Byddwch yn talu cyfraniadau tuag at gost eich buddion pensiwn. Gosodir y rhain fel canran o’ch Enillion Pensiynadwy yn unrhyw gyfnod tâl.
Pennir swm eich Enillion Pensiynadwy ar gyfer dibenion pennu pa Haen yr ydych ynddi fel a ganlyn:
- Os ydych yn aelod o Lu Heddlu yn gwasanaethu llawn amser, swm yr Enillion Pensiynadwy fydd y gyfradd o dâl y bydd gennych hawl iddi yn y cyfnod tâl hwnnw;
- Os ydych yn aelod o Lu Heddlu yng Nghymru a Lloegr yn gwasanaethu llawn amser, hon fydd y gyfradd y bydd gennych hawl iddi dan delerau ac amodau eich gwaith.
Os ydych yn aelod sy’n gwasanaethu rhan-amser, swm yr Enillion Pensiynadwy llawn amser bydd yn penderfynu eich haen.
Gweler isod y cyfraddau ar gyfer 2026/27 o gyfraniadau aelodau. (Nodwch os nad ydych yn gymwys am fuddion afiechyd, byddwch yn talu cyfraniadau ar gyfradd is).
| Eich Enillion Pensiynadwy | Eich Cyfradd Cyfrannu |
| Llai na £37,035 | 12.88% |
| Mwy na £37,035 ond llai na £79,588 | 13.88% |
| Mwy na £79,588 | 14.22% |
Dalier Sylw
Mae’r cyfraniadau yn cael eu tynnu o’r cyflog cyn iddo gael ei asesu am dreth incwm, felly byddwch yn derbyn rhyddhad treth incwm llawn ar y gyfradd berthnasol.
Y Llu Heddlu sy'n gyfrifol am cyfrifo eich cyfradd cyfrannu. Os ydych yn credu ei fod yn anghywir, os cysylltwch â'r Llu os gwelwch yn dda.