Cynllun Pensiwn Heddlu

Cynyddu eich Pensiwn

Gallwch ddewis gwneud taliadau pensiwn ychwanegol er mwyn cynyddu eich buddion ymddeoliad am gyfnod o wasanaeth (neu eich buddion ymddeoliad a buddion marwolaeth am gyfnod o wasanaeth).

Pe byddech yn dewis arfer yr opsiwn hwn, byddwch yn gallu penderfynu a yw’r taliadau pensiwn ychwanegol i gael eu gwneud trwy daliadau cyfnodol neu daliad cyfandaliad.

Dim ond os byddwch wedi bod yn Aelod Gweithredol o Gynllun 2015 am gyfnod parhaus o 12 mis o leiaf a’ch bod wedi cael datganiad o swm y pensiwn ychwanegol y byddwch yn gallu defnyddio’r dewis cyfandaliad. Byddwch yn medru arfer y dewis pensiwn ychwanegol fwy nag unwaith, ond dim ond unwaith yn unrhyw Flwyddyn Cynllun y gallwch wneud taliad cyfandaliad i gael pensiwn ychwanegol.

Mae’r uchafswm o bensiwn ychwanegol y gellir ei brynu ar gyfer unrhyw Flwyddyn Cynllun yn cael ei adolygu yn flynyddol gan Drysorlys EM. Mae’r uchafswm o bensiwn ychwanegol y gellir ei brynu ar gyfer y Flwyddyn Cynllun 1 Ebrill 2015 hyd 31 Mawrth 2016 yn £6,500. Ar gyfer Blynyddoedd Cynllun sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2016 neu ar ôl hynny, mae’r cyfyngiad yn cael ei bennu gan Drysorlys EM, ond gall gynyddu mewn gwirionedd yn unol â’r CPI.

Dalier Sylw

Gallwch hefyd ddefnyddio’r cyfan neu ran o gyfandaliad a fyddai wedi bod yn daladwy i chi dan y Cynllun Iawndal fel cyfandaliad i brynu pensiwn ychwanegol, ond bydd angen i chi nodi’r dewis hwn i'ch Llu Heddlu.

Petaech yn penderfynu talu taliadau cyfnodol i gael pensiwn ychwanegol, gall Llu Heddlu ganslo’r dewis pensiwn ychwanegol os yw’n ymddangos yr eir dros y cyfyngiadau pensiwn ychwanegol os byddwch yn parhau i wneud y taliadau cyfnodol hynny.

Os bydd gennych hawl i daliad pensiwn ymddeoliad ychwanegol, fe allwch ddewis gohirio’r taliad. Os byddwch yn penderfynu gwneud hynny, byddwch yn dod yn Aelod Gohiriedig o ran y pensiwn ymddeoliad ychwanegol. Yna bydd gennych hawl i gael taliad o’r pensiwn ymddeoliad ychwanegol o’r dyddiad y byddwch yn ei nodi pan fyddwch yn hawlio taliad o’r pensiwn hwnnw. Gallwch hawlio taliad o’r pensiwn hwnnw trwy roi mis o leiaf o rybudd i’ch Awdurdod Pensiwn Heddlu.

Bydd cyfradd flynyddol eich pensiwn ymddeoliad ychwanegol yn cael ei gyfrifo yn unol â Rheoliadau Pensiynau’r Heddlu 2015.