Cofrestru Awtomatig
Mae'r Llywodraeth wedi cyflwyno trefn bensiynau orfodol, a elwir yn Gofrestru Awtomatig, o fis Hydref 2012 ymlaen. Y bwriad yw y bydd modd wedyn i bob Cyflogwr gynnig rhyw fath o ddarpariaeth bensiwn i'r gweithwyr cymwys. I gyd-fynd â hyn, mae cynllun diofyn statudol a adwaenir fel yr Ymddiriedolaeth Cynilion Cyflogaeth Wladol (NEST) wedi'i ddatblygu i ategu'r broses Cofrestru Awtomatig.
Ystyrir bod y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yn gynllun cymwys o dan y trefniad Cofrestru Awtomatig, gan ei fod wedi'i gontractio allan ar sail cyflog a'i fod eisoes wedi bodloni prawf cynlluniau cyfeirio statudol.
Mae'r CPLlL yn bodloni'r canllawiau a nodwyd ar gyfer Cofrestru Awtomatig; fodd bynnag, mae angen rhoi sylw i ambell fater o hyd.
Am rhagor o fanylion, gwelir gwefan Y Rheolydd Pensiynau.