Polisïau Dewisol

Mae'r rheoliadau sy'n llywodraethu'r Cynllun yn rhoi cyfrifoldebau a phwerau dewisol penodol i'r Awdurdod Gweinyddu a'r Cyflogwyr sy'n cyfrannu i'r Cynllun. Felly mae'n ofyn statudol bod yr Awdurdod Gweinyddu a'r Cyflogwyr sy'n cyfrannu i'r Cynllun yn llunio polisi ynghylch eu swyddogaethau dewisol ac yn ei gyhoeddi.

Rhaid i bob awdurdod Cyflogi baratoi Datganiad Ysgrifenedig o'i bolisi ar gyflawni ei gyfrifoldebau o dan Rheoliadau CPLlL.

Rhaid cyhoeddi a chyflwyno'r datganiad hwn i holl aelodau eich cynllun, a rhaid iddo fod ar waith am gyfnod o 30 Niwrnod cyn y gallwch weithredu eich polisïau. Cofiwch fod rhaid ichi ddanfon copïau o'ch polisïau at Gronfa Bensiwn Dyfed.

A chithau'n Awdurdod Cyflogi, mae'n rhaid ichi:

  • Adolygu eich datganiad o bryd i'w gilydd; a
  • Gwneud newidiadau priodol yn dilyn newid yn eich polisi.

Pe baech yn penderfynu newid eich polisïau, rhaid cyhoeddi datganiad diwygiedig o fewn Mis i ddyddiad y newid a'i ddanfon at holl aelodau'r cynllun; rhaid danfon copi hefyd at Gronfa Bensiwn Dyfed o fewn y mis hwnnw.

Wrth lunio, neu newid eich datganiad polisi, mae'n rhaid ichi ystyried i ba raddau y gallai cyflawni unrhyw un o'r cyfrifoldebau yn unol â'i bolisi arwain at sefyllfa o golli hyder difrifol yn y gwasanaeth cyhoeddus.

Wrth weithredu eich pwerau dewisol mae'n rhaid ichi ofalu:

  • Eich bod wedi gweithredu'n rhesymol.
  • Nad oes unrhyw gymhelliant cudd.
  • Y cafodd yr holl ffactorau perthnasol eu hystyried; a
  • Y cafodd y penderfyniad ei gofnodi'n briodol.

Dalier Sylw

Am restr o'r Polisïau Dewisol sydd ar gael i Awdurdodau Cyflogi dan y Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, neu os hoffech drafod y mater hwn ymhellach, cysylltwch â Chronfa Bensiwn Dyfed.

Cronfa Bensiwn Dyfed