Absenoldeb o'r Gwaith
Mae nifer o wahanol amgylchiadau a all achosi ichi fod yn absennol o'r gwaith. Gall yr absenoldebau hyn effeithio ar y buddion pensiwn y byddwch yn eu cronni. Fodd bynnag, pan fyddwch yn dychwelyd i'r gwaith bydd eich Cyflogwr wastad yn rhoi dewis ichi adfer unrhyw bensiwn a gollwyd, cyhyd â bod eich absenoldeb wedi'i awdurdodi (ac eithrio Streic).
Os byddwch yn penderfynu ad-dalu eich cyfraniadau er mwyn adfer 'pensiwn a gollwyd' cyn pen 30 diwrnod ar ôl dychwelyd i'r gwaith, caiff y gost ei rhannu rhyngoch chi a'ch Cyflogwr (1/3 gan yr aelod a 2/3 gan y Cyflogwr). Ond os byddwch yn penderfynu gwneud hyn ar ôl y cyfnod o 30 diwrnod, bydd yn rhaid ichi, fel aelod, dalu'r gost yn ei chyfanrwydd.
Os nad ydych wedi cael yr opsiwn o ad-dalu, cysylltwch â'ch Cyflogwr. Er mwyn cael amcangyfrif o'r gost i adfer eich pensiwn, defnyddiwch y Cyfrifiannell Pensiwn a Gollwyd ar wefan Genedlaethol CPLlL.
- Beth os taw salwch sy'n gyfrifol am fy absenoldeb?
- Sut y bydd cyfnodau o absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu, a thadolaeth yn cael eu trin?
- Beth os byddaf yn dewis Streicio yn y dyfodol?
- Beth os caf fy ngalw i Wasanaethu ar Reithgor?
- Fel aelod o'r Lluoedd Arfog Wrth Gefn, beth os caf fy ngalw i wasanaethu?