Cyfrifo eich Buddion
Bydd eich buddion pensiwn yn cael eu cyfrifo ar Gyfartaledd Cyflog Gyrfa wedi’i Adbrisio o 1 Ebrill 2014 ymlaen. Fodd bynnag, os daethoch yn aelod o'r cynllun cyn y dyddiad hwn, bydd y buddion rydych wedi eu cronni hyd at 31 Mawrth 2014 yn dal i gael eu cyfrif ar sail Cyflog Terfynol pan fyddwch yn ymddeol, gan ddefnyddio eich cyflog pensiynadwy adeg eich ymddeoliad.
Bydd y buddion pensiwn sy'n daladwy pan fyddwch yn ymddeol wedi'u seilio ar werth cyfunedig eich Cyflog Terfynol a'ch buddion Cyfartaledd Cyflog Gyrfa wedi'i Adbrisio. Hefyd gallwch ddewis ildio rhan o'ch pensiwn er mwyn cael arian parod di-dreth (yn ogystal ag unrhyw hawl sydd gennych i gyfandaliad awtomatig mewn perthynas â'ch aelodaeth o'r cynllun cyn 2008). Cymudo yw'r enw ar hyn. (Cyfnewid eich Pensiwn).
Gwarchodaeth Ychwanegol
Gall fod gwarchodaeth yn ei le os ydych yn nesáu at oedran ymddeol, er mwyn sicrhau y byddwch yn cael pensiwn sy'n gyfwerth o leiaf â'r hyn y byddech wedi'i gael pe bai'r cynllun heb newid ar 1 Ebrill 2014.
Beth os ymunais â'r Cynllun ar ôl 31 Mawrth 2014?
Ni fydd y cyfeiriadau at 'Gyflog Terfynol' a wneir yn yr adran hon yn berthnasol, felly dylid cyfeirio'n unig at adran Buddion Cyfartaledd Cyflog Gyrfa Wedi’i Adbrisio a'r adran Gyfnewid.
Dalier Sylw
Oherwydd dyfarniad yr Uchel Lys ym mis Rhagfyr 2018 mewn perthynas â’r diogelwch trosiannol anghyfreithlon a roddir i aelodau presennol o gynlluniau pensiwn Gwasanaethau Cyhoeddus, bydd rheoliadau’r Cynllun yn newid maes o law i ystyried y rhwymedi.
Gallai eich buddion gael eu lleihau / cynyddu'n actiwaraidd os cânt eu talu cyn / ar ôl eich Oedran Pensiwn Arferol. Does DIM cyfeiriad wedi'i wneud at y lleihad / cynnydd actiwaraidd mewn buddion yn yr adran hon.