Trosglwyddo Buddion Blaenorol

Mae'n bosib y gallech drosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) o'r canlynol:

  • cronfa CPLlL blaenorol.
  • cynllun pensiwn Cyflogwr blaenorol; (yn cynnwys cynllun tramor).
  • cynllun pensiwn hunangyflogedig.
  • polisi 'prynu allan'.
  • cynllun pensiwn personol.
  • cynllun pensiwn cyfranddeiliaid.

Rhaid gwneud cais am drosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i'r CPLlL cyn pen 12 mis ar ôl ymuno â'r Cynllun. Ar ôl 12 mis, gellir trosglwyddo hawliau pensiwn gyda chaniatâd eich cyflogwr yn unig. Er mwyn gwneud cais i drosglwyddo, rhaid lenwi'r ffurflen Datganiad Hawliau Pensiwn Blaenorol a'i dychwelyd i'ch Cyflogwr.

Dalier Sylw

Ni fydd unrhyw gais a wnewch i archwilio trosglwyddiad yn eich rhwymo nes y byddwch wedi cael y manylion llawn ac wedi cadarnhau eich bod am i'r trosglwyddiad fynd rhagddo.

Cofiwch roi ystyriaeth ofalus cyn penderfynu trosglwyddo buddion pensiwn blaenorol mewn i'r CPLlL. Efallai y byddwch yn dymuno cael Cyngor Ariannol Annibynnol cyn gwneud y penderfyniad hwn.