Eich cyflogwr sy'n darparu'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) ar eich cyfer ac ef felly sy'n talu'r rhan fwyaf o gost eich budd-daliadau. Mae'r swm yr ydych chi'n ei dalu yn dibynnu ar yr hyn yr ydych yn ei ennill, ond bydd rhwng 5.5 a 12.5% o'ch cyflog pensiynadwy o dan BRIF Adran y Cynllun.
Mae'r gyfradd yr ydych yn ei thalu yn dibynnu ar y band sy'n gymwys i chi, ond fydd yn seiliedig ar eich cyflog pensiynadwy gwirioneddol. Fodd bynnag, mae'r swm yr ydych yn ei dalu mewn gwirionedd yn llawer llai nag y tybiwch gan fod y cyfraniadau yn ddi-dreth.
Fel aelod o'r CPLlL, gallwch ddewis peidio â bod yn rhan o'r cynllun ar unrhyw adeg. Fodd bynnag nid yw hwn yn benderfyniad y dylid ei wneud ar chwarae bach.
Fel dewis arall, gallwch ddewis haneru eich cyfradd gyfrannu arferol, er mwyn cronni hanner lefel y pensiwn yn y cynllun yn ystod y cyfnod hwn, a allai fod yn well dewis na pheidio â bod yn rhan o'r cynllun o gwbl. Gelwir hyn yn Adran 50/50 y Cynllun.
-
BRIF Adran
Byddwch yn dechrau talu cyfraniadau o dan BRIF Adran y cynllun, oni bai eich bod yn gwneud etholiad i dalu o dan yr Adran 50/50.
Mae'r Trefniad Bandiau Cyfraniadau ar gyfer BRIF Adran y Cynllun ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2021 fel a ganlyn.
Eich Cyflog Pensiynadwy Gwirioneddol |
Cyfradd Cyfrannu i'r BRIF Adran |
Hyd at £14,600 |
5.50% |
£14,601 i £22,800 |
5.80% |
£22,801 i £37,100 |
6.50% |
£37,101 i £46,900 |
6.80% |
£46,901 i £65,600 |
8.50% |
£65,601 i £93,000 |
9.90% |
£93,001 i £109,500 |
10.50% |
£109,501 i £164,200 |
11.40% |
Mwy na £164,201 |
12.50% |
-
Adran 50/50
Mae'r Trefniad Bandiau Cyfraniadau ar gyfer Adran 50/50 y Cynllun ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2021 fel a ganlyn.
Eich Cyflog Pensiynadwy Gwirioneddol |
Cyfradd Cyfrannu i'r Adran 50/50 |
Hyd at £14,600 |
2.75% |
£14,601 i £22,800 |
2.90% |
£22,801 i £37,100 |
3.25% |
£37,101 i £46,900 |
3.40% |
£46,901 i £65,600 |
4.25% |
£65,601 i £93,000 |
4.95% |
£93,001 i £109,500 |
5.25% |
£109,501 i £164,200 |
5.70% |
Mwy na £164,201 |
6.25% |
Sut rwyf yn dewis yr Opsiwn 50/50?
Bydd yn rhaid ichi roi gwybod i'ch Cyflogwr yn ysgrifenedig a chaiff eich cyfradd gyfrannu ei lleihau o'r cyfnod cyflog nesaf. Rydych yn gallu derbyn y Ffurflen Etholiad priodol drwy gysylltu â'ch Cyflogwr.
Gallwch ddychwelyd i'ch cyfradd gyfrannu arferol ar unrhyw adeg, drwy roi gwybod i'ch Cyflogwr yn ysgrifenedig. Wedyn bydd trefn y buddion llawn yn cael ei hailddechrau o'r cyfnod cyflog nesaf.
Sylwch taw diben yr opsiwn hwn yw bod yn ateb yn y tymor byr mewn cyfnodau anodd yn ariannol. Bydd yn ofynnol i’ch Cyflogwr eich ailgofrestru ym 'mhrif adran' y cynllun bob tair blynedd. Caiff hyn ei wneud yn unol â dyddiad ailgofrestru awtomatig eich Cyflogwr.
Tra byddwch yn cyfrannu o dan yr Adran 50/50, byddwch yn cadw'r ddarpariaeth lawn o ran salwch / marwolaeth.
Dalier Sylw
Eich Cyflogwr sy'n gyfrifol am ddyrannu eich cyfradd gyfrannu. Os ydych yn credu ei fod yn anghywir, cysylltwch â'ch Cyflogwr.
Bydd unrhyw goramser cytundebol neu angytundebol yr ydych yn ymgymryd yn cael ei ystyried yn bensiynadwy.