Gwasanaeth HelpwrArian

Mae'n bwysig eich bod chi, fel aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, yn deall eich bod yn aelod o gynllun pensiwn â buddion wedi'u diffinio yn y sector cyhoeddus ac felly NID yw'r hyblygrwydd sy'n cael ei gyflwyno o dan 'Rhyddid a Dewis' yn effeithio ar sut y gallwch chi dynnu eich Buddion Diffiniedig o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

Fodd bynnag mae rhai newidiadau anuniongyrchol y byddant yn effeithio ar unrhyw aelodau o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol sy'n ystyried trosglwyddo gwerth eu hawliau pensiwn â buddion wedi'u diffinio cronnus o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol i drefniant diffiniedig sy'n cynnig 'buddion hyblyg'.

Cyn gwneud unrhyw benderfyniad i drosglwyddo eich buddion o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, ewch i’r wasanaeth HelpwrArian i gael rhagor o arweiniad. Mae HelpwrArian yn cysylltu arweiniad arian a phensiynau er mwyn ei wneud yn gyflymach ac yn haws i ddod o hyd i’r cymorth cywir, mae HelpwrArian yn cysylltu cymorth a gwasanaethau tri darparwr arweiniad ariannol a gefnogir gan y llywodraeth: y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau, a Pension Wise. Mae HelpwrArian yma i wneud eich dewisiadau arian a phensiwn yn gliriach. Yma i dorri trwy'r cymhlethdod, i egluro beth mae angen i chi ei wneud a sut y gallwch ei wneud. Yma i'ch rhoi mewn rheolaeth ag arweiniad diduedd sydd wedi'i gefnogi gan y llywodraeth ac ac i gynnig argymhellion cymorth pellach y gellir ymddiried ynddynt os byddwch eu hangen.

Dalier Sylw

Yn unol â arweiniad HelpwrArian, dylech hefyd ystyried cael cyngor ariannol annibynnol i'ch helpu i ddewis yr opsiwn mwyaf addas.

Mae'r holl gynlluniau pensiwn yn cael eu rheoli gan reoliadau sy'n pennu pryd a sut y gallwch dynnu eich buddion pensiwn, er mwyn gwarchod eich buddion hyd nes eich bod yn ymddeol. O dan reoliadau presennol y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, gallwch ymddiheuro'n wirfoddol ar ôl ichi gyrraedd 55 oed, er gallai eich buddion fod yn daladwy'n gynharach ar sail salwch (yn amodol ar gael ardystiad gan Ymarferydd Meddygol Cofrestredig Annibynnol a benodwyd gan eich Cyflogwr).