Datrysiad McCloud
Pan newidiodd y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol y ffordd yr oedd yn gweithio o gyflog terfynol i gyfartaledd gyrfa yn 2014, fe ychwanegodd y cynllun amddiffyniad i aelodau a oedd yn agos i ymddeol a elwir yn danategiad. Roedd y tanategiad hwn yn sicrhau fod y buddion roedd yr aelodau hynny wedi eu cronni hyd at ddyddiad y newid yn aros yr un gwerth o leiaf. Fe wnaeth cynlluniau pensiwn sector cyhoeddus eraill yr un fath.
Fodd bynnag, canfu’r Llys Apêl fod yr amddiffyniad hwn yn wahaniaethol yng Nghynlluniau Pensiwn Barnwyr a Diffoddwyr Tân gan nad oedd y tanategiad yn berthnasol i aelodau iau. Mae’r dyfarniad hwn yn aml yn cael ei alw’n ddyfarniad McCloud.
O ganlyniad mae pob cynllun pensiwn sector cyhoeddus, gan gynnwys y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, wedi gwneud newidiadau i ddiddymu’r gwahaniaethu hwn ar sail oed. Daeth newidiadau dyfarniad McCloud i rym ar 1 Hydref 2023 yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Nawr mae’r tanategiad yn berthnasol i bob aelod sy’n gymwys ar ei gyfer, waeth faint yw eu hoed.
Rydych yn gymwys ar gyfer y newid hwn os:
- Roeddech yn talu cyfraniadau pensiwn i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu gynllun pensiwn sector cyhoeddus arall ar neu cyn 31 Mawrth 2012;
- Roeddech hefyd yn talu cyfraniadau pensiwn i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol rhwng 1 Ebrill 2014 a 31 Mawrth 2022; ac
- Rydych wedi bod yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu gynllun pensiwn sector cyhoeddus arall heb fwlch parhaus o fwy na 5 mlynedd.
Bydd y newid, a elwir yn rhwymedi McCloud, yn diddymu gwahaniaethu ar sail oed ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2014 i 31 Mawrth 2022.
Os ydych yn gymwys:
Fe fyddwn yn cyfrifo eich pensiwn yn unol â rheolau McCloud ac yn sicrhau eich bod yn derbyn y swm uchaf o bensiwn yn seiliedig ar ba bynnag reolau sy’n gweithio’n well i chi.
Os ydych eisoes yn derbyn eich pensiwn, fe fyddwn yn ei godi os oes angen ac yn ychwanegu tâl am unrhyw bensiwn yr ydych wedi ei golli yn y gorffennol.
Nid oes rhaid i chi wneud unrhyw beth. Fe fyddwn yn cysylltu â chi. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol:
- Mae yna lawer o gofnodion pensiwn i fynd trwyddynt, ac felly fe fydd y broses hon yn cymryd amser.
- Nid yw’r tanategiad yn debygol o effeithio ar werth y pensiwn i nifer ohonoch, a bydd unrhyw gynnydd fwy na thebyg yn fach.
Darllenwch fwy am rwymedi McCloud yma:
Gwefan y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Cenedlaethol (mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg)