Cynllun Pensiwn Heddlu

Aelodaeth

Os ydych yn Swyddog rheolaidd o’r heddlu, a ymunodd â’r gwasanaeth cyn 6 Ebrill 2006, byddwch wedi eich cynnwys yn Cynllun 1987 yn awtomatig ar eich penodi, oni bai eich bod wedi dewis peidio ag ymuno.

Os ydych wedi gadael Cynllun 1987, NI allwch ailymuno ar ôl Ebrill 2006. Ar ôl y dyddiad hwnnw, os dymunwch ailymuno, rhaid i chi ymuno â Cynllun 2015, ond gallai hynny fod yn amodol ar archwiliad meddygol, y byddai’n rhaid i chi dalu amdano, i bennu a ydych yn gymwys ar gyfer budd-daliadau salwch.

Mae gwaith rhan-amser cymeradwy yn cyfrif fel gwasanaeth pensiynadwy ar sail pro-rata yn ôl yr union oriau a weithir fel cyfran o’r gwaith llawn amser. Bydd eich cyfraniadau pensiwn hefyd yn cael eu casglu ar sail pro-rata. Serch hynny, gofynnir i chi nodi y cyfrifir eich budd-daliadau ymddeol ar lefel eich enillion pensiynadwy cyfwerth â llawn amser, er eich bod yn gweithio’n rhan-amser.

Dalier Sylw

Mae'r Cynllun 1987 wedi cau o'r 6 Ebrill 2006, felly nid yw yn bosibl pellach i drosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i fewn i'r Cynllun.

Mae modd i chi fod yn aelod o Cynllun 1987 a chyfrannu i gynlluniau pensiwn eraill ar yr un adeg, megis cynllun pensiwn personol. Os dymunwch gael gwybodaeth am gynlluniau pensiwn eraill, argymhellir eich bod yn trafod y mater gydag Ymgynghorydd Ariannol Annibynnol.