Cynllun Pensiwn Heddlu

Lwfans Blynyddol

Y Lwfans Blynyddol yw’r uchafswm y gall eich buddion pensiwn gynyddu yn ystod y cyfnod o 1 Ebrill tan 31 Mawrth heb orfod talu treth ychwanegol. Mae’r terfyn wedi’i osod yn £60,000 ers 1 Ebrill 2023. Os bydd eich Swm Mewnbwn Pensiwn yn fwy na’r gwerth hwn, efallai bydd treth ychwanegol yn ddyledus.

Fodd bynnag, gall unrhyw lwfans na ddefnyddiwyd o’r tair blynedd flaenorol gael ei ddefnyddio i’w osod yn erbyn y cynnydd hwn. Dylech hefyd gymryd i ystyriaeth unrhyw fuddion pensiwn arall a allai fod gennych wrth asesu eich Swm Mewnbwn Pensiwn, gan gynnwys unrhyw Gyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY).

Sylwer bod unrhyw CGY mewnol rydych wedi’i dalu o 1 Ebrill tan 31 Mawrth WEDI ei gynnwys wrth gyfrifo’r Lwfans Blynyddol rydych wedi’i ddefnyddio hyd at 31 Mawrth yn sgil eich buddion yn y CPLlL. Bydd buddion sy’n deillio o flynyddoedd ychwanegol, trosglwyddiadau a dderbyniwyd yn ystod cyfnod pensiwn blaenorol a debydau pensiwn yn ystod cyfnod pensiwn blaenorol i gyd wedi cael eu cynnwys.

Os ydych yn credu y bydd y Lwfans Blynyddol yn effeithio arnoch, cysylltwch â Chronfa Bensiwn Dyfed.