Cynllun Pensiwn Heddlu

Gadael y Cynllun

Gallwch ddewis gadael Cynllun 1987 ar unrhyw adeg. Os penderfynwch adael, fe bydd eich penderfyniad yn dod i rym o ddyddiad eich diwrnod cyflog nesaf ar ôl derbyn eich rhybudd i adael y cynllun.

Bydd nifer o ganlyniadau i adael Cynllun 1987, sy'n cynnwys:

  • os ydych yn cronni hyd at 2 flynedd o wasanaeth pensiynadwy yn Cynllun 1987 ac yna’n penderfynu gadael y Cynllun, ni fyddwch ond yn gymwys i dderbyn pensiwn gohiriedig a fydd yn daladwy fel arfer ar gyrraedd 60 oed;
  • os ydych yn marw mewn swydd a chithau wedi gadael y Cynllun, nid oes cyfandaliad grant marwolaeth yn daladwy;
  • gan nad ydych yn aelod gweithredol o Chynllun 1987, ni fyddwch yn gymwys i dderbyn pensiwn salwch os ydych yn ymddeol am resymau meddygol, er y bydd eich pensiwn gohiriedig yn cael ei dalu’n gynnar i chi os ydych yn cael eich asesu yn barhaol anabl ar gyfer pob gwaith rheolaidd;
  • bydd gadael y Cynllun yn effeithio ar fudd-daliadau sy’n daladwy i’ch goroeswyr;
  • ni allwch ailymuno â Chynllun 1987, dim ond â Chynllun 2015.
  • Buddion Gohiriedig
  • Trosglwyddo eich Buddion

Dalier Sylw

Fel y gennych yn awr mwy na 2 flynedd o wasanaeth cymhwyso yn y Cynllun 1987, felly NI fyddwch yn gymwys i dderbyn ad-daliad o'ch gyfraniadau pensiwn.

Os ydych yn ystyried gadael Cynllun 1987, argymhellir yn gryf eich bod yn ceisio Cyngor Ariannol Annibynnol cyn penderfynu.