Cynllun Pensiwn Heddlu

Oedran Ymddeol

Os oes gennych 25 mlynedd o wasanaeth pensiynadwy, gallwch ymddeol a derbyn pensiwn cyffredin yn ddi-oed ar ymddeol unwaith yr ydych yn 50 oed. Os oes gennych 30 mlynedd o wasanaeth pensiynadwy gallwch ymddeol a derbyn pensiwn yn ddi-oed cyn cyrraedd 50 oed.

Os ydych wedi cwblhau 30 mlynedd o wasanaeth pensiynadwy yn Cynllun 1987 (neu y byddech wedi gallu gwneud hynny pe na fyddech wedi gadael y Cynllun), gall Heddlu Dyfed-Powys fynnu eich bod yn ymddeol ar y sail na fyddai er lles effeithlonrwydd yn gyffredinol i’ch cadw yn y llu.

Os ydych yn dod yn barhaol anabl ar unrhyw oed i gyflawni dyletswyddau cyffredin aelod o’r heddlu gall Heddlu Dyfed-Powys fynnu eich bod yn ymddeol ar sail salwch.