Cynllun Pensiwn Heddlu

Tâlu eich Buddion

Telir pensiynau a chyfandaliadau o Chynllun 1987 gan Heddlu Dyfed-Powys. Fel arfer, telir cyfandaliadau yn fuan ar ôl ymddeol. Telir pensiynau ymlaen, fel arfer yn fisol drwy drosglwyddiad credyd i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu.

Telir y budd-daliadau cyntaf i oroeswyr cyn gynted â phosib ar ôl marwolaeth yr aelod (mae angen amser i gysylltu â’r goroeswyr a sefydlu eu hawl). Fel arfer, telir y taliadau dilynol yn fisol i’r buddiolwyr.

Telir pensiynau a chyfandaliadau i’r sawl sydd â hawl iddynt (y buddiolwr), oni bai bod yr unigolyn hwnnw dan 18 oed neu’n analluog i reoli ei faterion ariannol. Mewn achosion fel hyn, gellir gwneud y taliadau i’r berthynas neu’r gwarcheidwad sy’n gofalu am y buddiolwr er bod Heddlu Dyfed-Powys yn gweithredu polisi o dalu pensiynau plant yn uniongyrchol i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu y plentyn ei hun.

Os yw eich taliadau pensiwn (o ran eich holl bensiynau ac eithrio Pensiwn y Wladwriaeth) yn fach iawn ac yr ydych wedi cyrraedd eich Oedran Pensiwn Wladwriaeth (OPW), gallwch ofyn am i’r cyfan o bensiwn o Chynllun 1987 sy’n weddill gael ei dalu i chi fel cyfandaliad. Gelwir hwn yn ‘gyfnewid dibwys’ yn nhermau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

  • Treth Incwm
  • Dyddiadau Talu
  • Newid eich Cyfeiriad
  • Newid Manylion eich Cyfrif Banc
  • Ailbrisiad

Dalier Sylw

Ni ellir talu eich pensiwn o Chynllun 1987 ond i chi. At ddibenion treth incwm, trinnir pob pensiwn fel incwm a enillwyd a thynnir treth ohono cyn ei dalu, ond bydd eich cyfandaliad cyfnewid yn ddi-dreth ac felly hefyd cyfandaliad grant marwolaeth i’ch goroeswyr.