Diogelwch y Cynllun
Daeth Cynllun 2015 i rym ar 1 Ebrill 2015, ond ni fydd pob aelod gweithredol o Gynllun 1987 wedi trosglwyddo i Gynllun 2015, gan y rhoddir diogeliad i ddau grŵp:
- Aelod â Diogeliad Trosiannol
- Aelod â Diogeliad Taprog
Aelod â Diogeliad Trosiannol oedd aelod gweithredol o gynllun 1987 â 10 mlynedd neu lai yn 55 oed, neu 10 mlynedd neu lai yn 48 oed, ac a oedd 10 mlynedd neu lai o uchafswm pensiwn heb ei leihau ar 1 Ebrill 2012. Rhoddwyd i’r fath aelodau ddiogeliad llawn ac felly ni fyddant wedi cael eu symud i gynllun 2015.
Aelod â Diogeliad Taprog oedd aelod gweithredol o Gynllun 1987:
- oedd rhwng 41 a 45 oed ar 1 Ebrill 2012; neu
- oedd rhwng 34 a 38 oed ar 1 Ebrill 2012, â 10 mlynedd neu lai o allu ymddeol ar uchafswm pensiwn heb ei leihau; neu
- oedd yn 38 oed neu’n hŷn (hyd at 45 oed) ac oedd rhwng 14 a 10 mlynedd o allu ymddeol ar uchafswm pensiwn heb ei leihau ar 1 Ebrill 2012; neu
- oedd yn iau na 38 oed ac oedd mwy na 10 mlynedd o allu ymddeol ar uchafswm pensiwn heb ei leihau ar 1 Ebrill 2012.
Bydd aelodau â Diogeliad Taprog yn symud i gynllun 2015 mewn modd taprog.
Dalier Sylw
Bydd pob aelod sydd heb ei ddiogelu wedi trosglwyddo i gynllun 2015 o 1 Ebrill 2015 ymlaen.