Mae swm eich budd-daliadau ymddeol a’r dyddiad y maent yn dod yn daladwy yn dibynnu ar eich oed, eich cyflog pensiynadwy terfynol a hyd eich gwasanaeth pensiynadwy. Byddwch yn derbyn pensiwn am oes ac os dewiswch gyfnewid rhan ohono, cyfandaliad di-dreth hefyd.
Seilir eich pensiwn heddlu ar 1/60fed o’ch cyflog pensiynadwy cyfartalog ar gyfer pob blwyddyn o wasanaeth pensiynadwy hyd at 20 mlynedd, a 2/60fed o’ch cyflog pensiynadwy cyfartalog ar gyfer bob blwyddyn dros 20 mlynedd hyd at uchafswm o 40/60fed. Er enghraifft, mae 25 mlynedd o wasanaeth yn ildio 30/60fed. Mae pob diwrnod yn cyfrif fel 1/365 o flwyddyn. Uchafswm hyd y gwasanaeth pensiynadwy sy’n cyfrif at bensiwn yn Cynllun 1987 yw 30 mlynedd.
Dyfernir pensiwn cyffredin yn ddi-oed ar ymddeol wedi cwblhau 25 mlynedd o leiaf o wasanaeth pensiynadwy. Os oes gennych 25 mlynedd o wasanaeth pensiynadwy, gallwch ymddeol ar bensiwn cyffredin a delir yn ddi-oed ar ymddeol os ydych yn 50 oed neu’n hŷn. Fodd bynnag os oes gennych 30 mlynedd o wasanaeth pensiynadwy gallwch ymddeol a derbyn pensiwn yn ddi-oed cyn cyrraedd 50 oed.
Enghraifft
Cyflog pensiynadwy cyfartalog Chris yw £30,000 ac mae ei wasanaeth pensiynadwy yn 20 mlynedd yn ôl 1/60fed yr un a 5 mlynedd yn ôl 2/60fed yr un.
Cyfrifir ei bensiwn blynyddol fel 30 mlynedd x 1/60 x £30,000 = £15,000
-
Gwasanaeth Pensiynadwy
Dyma’r gwasanaeth sy’n cyfrif wrth gyfrifo eich pensiwn o dan Cynllun 1987. Mae hwn yn cynnwys:
- eich gwasanaeth presennol yn Swyddog rheolaidd o’r heddlu yr ydych wedi talu cyfraniadau pensiwn amdano neu y tybir bod cyfraniadau pensiwn wedi cael eu talu amdano (e.e. unrhyw gyfnod di-dâl yn ystod 26 wythnos gyntaf absenoldeb mamolaeth).
- gwasanaeth cynharach gyda’r un llu, neu gyda lluoedd eraill y Swyddfa Gartref (a bwrw eto eich bod wedi talu cyfraniadau pensiwn am y gwasanaeth cynharach ac na ad-dalwyd y cyfraniadau i chi).
- gwasanaeth cynharach gyda llu yn yr Alban neu gyda Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon, os oeddech wedi trosglwyddo gyda chaniatâd ac yr oeddech wedi talu cyfraniadau pensiwn nad ydynt wedi cael eu had-dalu i chi.
- cyfnodau o ‘wasanaeth perthnasol’ dan adran 97 o Ddeddf yr Heddlu 1996 (mae’r rhain yn cynnwys penodiadau i’r Arolygiaeth Cwnstabliaeth a mathau neilltuol o wasanaeth tramor) yn ystod pryd yr oeddech yn talu cyfraniadau pensiwn. (Argymhellir bod Swyddogion sy’n ystyried gwasanaeth tramor yn ceisio cyngor ynghylch eu pensiwn cyn cytuno i ymgymryd â’r cyfryw wasanaeth).
Dalier Sylw
Mae Cynllun 1987 wedi cau o'r 6 Ebrill 2006, felly NI fydd hawl gennych drosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i fewn i'r Cynllun mwyach. Fodd bynnag, os ydych eisioes wedi trosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i fewn i'r Cynllun, bydd y gwasanaeth ychwanegol a brynwyd yn cael eu gynnwys pan fyddwn yn cyfrifo eich budd-daliadau.
-
Enillion Pensiynadwy
Caiff eich budd-daliadau pensiwn eu cyfrif ar sail eich cyflog pensiynadwy cyfartalog, fel arfer eich cyflog pensiynadwy yn ystod 12 mis olaf eich gwasanaeth. Os oedd eich cyflog pensiynadwy yn uwch yn ystod y ddwy flynedd flaenorol, bydd y swm hwnnw’n cael ei ddefnyddio.
Enghraifft
Mae Alex yn ymddeol ddiwedd 2020. Derbyniodd ddyrchafiad dros dro yn 2015. Ei gyflog pensiynadwy yn y 3 blynedd cyn ymddeol oedd:
- 2020: £40,000
- 2019: £45,000
- 2018: £37,000
Y cyflog pensiynadwy cyfartalog a ddefnyddir i gyfrifo ei bensiwn yw £45,000, a dderbyniwyd yn 2019.
Cymerir mai cyflog llawn amser yw cyflog pensiynadwy cyfartalog bob amser hyd yn oed os ydych yn gweithio’n rhan-amser. Er enghraifft, os ydych yn gweithio hanner amser am flwyddyn, eich cyflog pensiynadwy terfynol ar gyfer y flwyddyn honno yw’r gyfradd llawn amser (ond ni fyddwch ond yn gallu cyfrif hanner blwyddyn o wasanaeth pensiynadwy).
-
Cyfnewid eich Pensiwn
Mae Cynllun 1987 yn caniatáu i chi gyfnewid rhan o’ch pensiwn yn barhaol am gyfandaliad. Os dymunwch gyfnewid rhaid i chi roi digon o rybudd i ni cyn dyddiad eich ymddeoliad, neu os nad yw eich pensiwn yn daladwy ar eich ymddeoliad, cyn bod y pensiwn yn dechrau cael ei dalu.
Gallwch gyfnewid hyd at 25% o’ch pensiwn, os ydych yn derbyn:
- pensiwn cyffredin ar ôl nid llai na 30 mlynedd o wasanaeth pensiynadwy neu ar gyrraedd ymddeoliad gorfodol ar sail oed;
- pensiwn gwasanaeth byr;
- pensiwn salwch; neu
- pensiwn gohiriedig ar iddo ddod yn daladwy.
Noder bod y ffactorau a ddefnyddir i gyfrifo cymudo pensiwn blynyddol am gyfandaliad ar ôl gorffen 30 mlynedd o wasanaeth pensiynadwy neu ar ymddeoliad gorfodol oherwydd oedran wedi cael eu cyhoeddi gan Adran Actiwari’r Llywodraeth (GAD).
Ym mhob achos arall, gallwch gyfenwid pensiwn cyffredin 25 mlynedd o leiaf o wasanaeth pensiynadwy (ond llai na 30 mlynedd), i roi uchafswm cyfandaliad sydd heb fod yn fwy na 2.25 gwaith eich pensiwn blynyddol gros (cyn unrhyw ostyngiadau).