Cynllun Pensiwn Heddlu

Ysgariad

Os ydych yn ysgaru neu mae eich partneriaeth sifil gofrestredig yn cael ei diddymu, mae dau bwynt pwysig y dylech eu nodi. Ni fydd eich cyn-briod yn gymwys bellach i dderbyn unrhyw bensiwn goroeswyr, os ydych yn marw o’i flaen/blaen; ond bydd pensiwn i blant yn dal i fod yn daladwy i unrhyw blant cymwys os ydych yn marw.

Bydd y gost o gydymffurfio ag unrhyw orchymyn Llys sy’n gosod rhwymedigaeth ar Cynllun 1987 yn cael ei hadennill yn uniongyrchol oddi wrthych chi.

Dylech nodi hefyd, os bydd hawliad ariannol mewn achos o ysgariad, gwahanu barnwrol neu ddirymu priodas, bod yn rhaid i Heddlu Dyfed-Powys, os gofynnir iddo, roi datganiad ynghylch gwerth ariannol trosglwyddo eich hawliau pensiwn awdurdod yr heddlu, er galluogi’r Llys i ystyried y pensiwn y mae gennych hawl iddo wrth setlo hawliadau ariannol.

Gallai’r Llys osod eich hawliau pensiwn yn erbyn unrhyw asedau eraill neu mewn achos o ysgariad neu ddirymu priodas gall gyhoeddi gorchymyn rhannu pensiwn. Os bydd hawliadau ariannol yn codi yn sgil dirymu priodas, gwahanu barnwrol neu ysgariad, gall y Llys wneud gorchymyn clustnodi yn erbyn eich pensiwn.

Os bydd y Llys yn cyhoeddi gorchymyn clustnodi, gall y gorchymyn ei gwneud yn ofynnol bod eich cyn-briod, pan delir eich budd-daliadau, yn derbyn un, neu gyfuniad, o’r budd-daliadau canlynol:

  • y cyfan neu ran o’ch pensiwn;
  • y cyfan neu ran o’ch cyfandaliad;
  • y cyfan neu ran o grant marwolaeth a delir os ydych yn marw mewn swydd.

Bydd gorchymyn clustnodi yn erbyn taliadau pensiwn (ond nid cyfandaliadau oni fo’r gorchymyn yn cyfarwyddo hynny) yn dod i ben yn awtomatig os bydd eich cyn-briod yn ailbriodi, a bydd y pensiwn llawn yn cael ei dalu i chi. Bydd taliadau pensiwn i’ch cyn-briod yn dod i ben ar eich marwolaeth chi.

Os bydd y Llys yn cyhoeddi gorchymyn rhannu pensiwn dyrennir canran o’ch hawliau pensiwn i’ch cyn-briod ar y dyddiad y daw’r gorchymyn i rym, neu ddyddiad yr archddyfarniad absoliwt os yw hynny’n ddiweddarach. Bydd eich pensiwn, eich cyfandaliad a budd-daliadau goroeswyr yn cael eu lleihau. Bydd eich cyn-briod yn dal budd-daliadau credyd pensiwn yn Cynllun 1987 yn ei hawl ei hun a delir iddo/iddi ar gyrraedd 60 oed. Gelwir y lleihad yn eich pensiwn yn ddebyd pensiwn.

Mae dirymu partneriaeth sifil yn peri’r un sefyllfa ag ysgariad.