Cyfraniadau
Fel aelod o CPT 2015 byddech yn talu cyfraniad pensiwn sydd yn ganran o’ch tâl pensiynadwy (neu o’ch tâl pensiynadwy tybiedig).
Er bod y gyfradd gyfraniadau (canran) ar gyfer diffoddwyr tân rheolaidd rhan-amser, diffoddwyr tân wrth gefn a diffoddwyr tân gwirfoddol yn cael ei phennu drwy gyfeirio at y tâl cyfwerth amser llawn, bydd y cyfraniadau a delir yn seiliedig a dâl gwirioneddol (rhan-amser) y diffoddwyr tân.
Trinnir yr eitemau canlynol fel tâl pensiynadwy:
- Tâl a gewch am gyflawni dyletswyddau eich rôl, ac eithrio unrhyw lwfansau neu enillion a delir ar sail dros dro;
- eich enillion parhaol (gan gynnwys, yn achos diffoddwr tân wrth gefn, unrhyw lwfans cadw);
- y swm a hepgorwyd os ydych wedi cytuno i ildio’r hawl i gael rhan o’ch tâl pensiynadwy yn gyfnewid am fudd anariannol (cyfeirir at hyn weithiau fel 'aberthu cyflog');
- y swm a dalwyd am ddatblygiad proffesiynol parhaus os dyfarnodd yr awdurdod y dylai hwnnw fod yn bensiynadwy.
Fodd bynnag, NI fydd yn unrhyw daliadau a wneir gan gyflogwr i aelod sydd ar absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn yn cael eu hystyried yn dâl pensiynadwy.
Mae’r cyfraddau cyfraniadau presennol, am y cyfnod 1 Ebrill 2024 i 31 Mawrth 2025 fel a ganlyn:
Haen | System Dyletswydd | Gradd/rôl | Eich Cyfradd Cyfraniad |
1 | Gwirfoddolwr Rhan Amser | Pawb | 13.00% |
1 | Llawn Amser | Diffoddwr Tân | 13.00% |
2 | Llawn Amser |
Rheolwr Criw Rheolwr Gwylio
|
13.20% |
3 | Llawn Amser |
Rheolwr Gorsaf Rheolwr Grŵp |
13.70% |
4 | Llawn Amser | Rheolwr Ardal | 14.20% |
5 | Llawn Amser |
Prif Swyddog Tân Cynorthwyol
Dirprwy Brif Swyddog Tân
Prif Swyddog Tân
|
14.50% |
Dalier Sylw
Fel rheol, byddai’r cyfraniadau yn cael eu didynnu o bob rhandaliad o dâl pensiynadwy fel deuent yn ddyledus, oni fyddai dull arall o dalu wedi ei gytuno gyda’r Gwasanaeth Tân ac Achub. Mae cyfraniadau'n cael eu tynnu o'ch dâl cyn ei asesu ar gyfer treth incwm, felly byddwch yn derbyn rhyddhad treth incwm llawn yn awtomatig ar y gyfradd berthnasol.