Awdurdodau Cyflogi
Mae tri math o awdurdod cyflogi yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL).
-
Cyrff Rhestredig
Ystyr corff rhestredig yw corff a ddiffinnir yn statudol yn rheoliadau'r cynllun ac y mae rhwymedigaeth statudol arno i gymryd rhan yn y cynllun.
Mae Cyrff Rhestredig cyfredol Cronfa Bensiwn Dyfed gyda gweithwyr pensiynadwy yn cynnwys:
- Cyngor Sir Gâr
- Coleg Sir Gâr
- Cyngor Sir Ceredigion
- Coleg Ceredigion
- Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys
- Gwasanaethau Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
- Cyngor Sir Benfro
- Coleg Sir Benfro
- Y Drindod Coleg Caerfyrddin
- Coleg Prifysgol Cymru
-
Cyrff Dynodi
Yn yr un modd â chyrff rhestredig, caiff cyrff dynodi eu rhestru mewn atodlen yn rheoliadau'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Fel arfer, Cynghorau Tref a Chymuned yw'r rhan fwyaf o'r cyrff dynodi, ac unwaith yn rhagor mae gan yr awdurdod y grym i nodi pwy sy'n gymwys i ymuno â'r cynllun, cyn belled ag y cydymffurfir â'r meini prawf o ran mynediad.
Mae Cyrff Dynodi cyfredol Cronfa Bensiwn Dyfed gyda gweithwyr pensiynadwy yn cynnwys:
- Cyngor Tref Aberaeron
- Cyngor Tref Aberystwyth
- Cyngor Cymuned Betws
- Cyngor Tref Caerfyrddin
- Cyngor Tref Cwmaman
- Cyngor Cymunedol Gorslas
- Cyngor Tref Cydweli
- Cyngor Cymunedol Llanarthne
- Cyngor Cymunedol Llanbadarn Fawr
- Cyngor Cymunedol Llanedi
- Cyngor Gwledig Llanelli
- Cyngor Tref Llanelli
- Cyngor Cymuned Llangennech
- Cyngor Cymuned Llannon
- Cyngor Tref Pembre a Phorth Tywyn
- Cyngor Tref Doc Penfro
- Cyngor Tref Penfro
- Cyngor Tref Dinbych-y-pysgod
-
Cyrff a Dderbynnir
Mae dau fath o gyrff a dderbynnir, sef cyrff a dderbynnir (cymuned) a chyrff a dderbynnir (trosglwyddeion). Gall rhai mathau o gyflogwyr fod yn rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol drwy gytundeb derbyn y cytunnir arno gyda Chronfa Bensiwn Dyfed. Mae cyrff a dderbynnir (cymuned) yn cynnwys sefydliadau sy'n rhoi gwasanaeth yn ddielw i'r cyhoedd ac sydd â digon o gysylltiad ag un o Gyflogwyr y Cynllun fel y gellid ystyried bod gan y sefydliad ddiddordeb cymunedol.
Yn sgil newidiadau i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, mae hawl i staff a drosglwyddwyd o ganlyniad i drosglwyddo gwasanaeth ar gontract allanol i'r sector preifat, gael cynnig aelodaeth o gynllun pensiwn cymharol debyg, ac i gynnig aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol i'r cyflogwr sector preifat o dan y cytundeb derbyn, a elwir yn Gorff a Dderbynnir (Trosglwyddeion).
Er mwyn cael mynediad i'r cynllun, mae'n rhaid bod Corff a Dderbynnir (Trosglwyddeion) yn darparu gwasanaeth neu asedau mewn perthynas â chyflawni un o swyddogaethau un o Gyflogwyr y Cynllun.
Mae Cyrff a Dderbynnir cyfredol Cronfa Bensiwn Dyfed gyda gweithwyr pensiynadwy yn cynnwys:
- Gwasanaethau Busnes Adapt Cyfyngedig
- Marina Porth Tywyn Cyfyngedig
- Gyrfa Cymru’r Gorllewin
- Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr (CGGS)
- Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Sir Gâr
- Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CMGC)
- Cwarter Bach
- Pwyllgor Pwll Nofio Hwlffordd
- IAITH Cyfyngedig
- Llesiant Delta Cyfngedig
- Menter Bro Dinefwr
- Menter Castell-nedd PT
- Menter Cwm Gwendraeth Elli
- Menter Gorllewin Sir Gâr
- Arberth a’r Cylch
- Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (CGGSP)
- Arfordir Sir Benfro
- PLANED
- Tai Ceredigion
- Cymorth i Ddioddefwyr
- Croeso Sir Benfro
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Gweithredu Gorllewin Cymru
- Tribiwnlys Prisio Gorllewin Cymru
Dalier Sylw
Os ydych am dderbyn rhagor o wybodaeth am ddod yn Gyrff a Dderbynnir, cysylltwch â Chronfa Bensiwn Dyfed.