Strategaeth Gyllido

Rheoliadau (Diwygio) Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Cymru a Lloegr) 2004 yw’r fframwaith statudol sy’n pennu bod yn rhaid i’r Awdurdod Gweinyddu baratoi Datganiad ynghylch y Strategaeth Gyllido (DSG). Y prif ofynion ar gyfer paratoi’r DSG yw:

Ar ôl ymgynghori â’r holl bartïon perthnasol sy’n ymwneud â’r Gronfa, bydd yr Awdurdod Gweinyddu yn paratoi ac yn cyhoeddi ei strategaeth gyllido

Wrth baratoi’r DSG, rhaid i’r Awdurdod Gweinyddu dalu sylw i’r canlynol:

  • y canllawiau a gyhoeddwyd gan CIPFA at y diben hwn; a
  • y Datganiad o Egwyddorion Buddsoddi (DEB) ar gyfer y Gronfa a gyhoeddwyd o dan Reoliad 9A o Reoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Rheoli a Buddsoddi Cyllid) 1998 (fel y’u diwygiwyd)

Rhaid i’r DSG gael ei adolygu a’i gyhoeddi pryd bynnag y mae newid o bwys yn naill ai’r polisi ar y materion a bennir yn y DSG neu yn y Datganiad o Egwyddorion Buddsoddi. Mae’r buddion sydd i’w talu o dan y Cynllun yn cael eu gwarantu gan statud ac mae’r addewid o bensiynau yn sicr.

Mae’r DSG yn mynd i’r afael â’r mater o reoli’r angen am gyllido'r buddion hyn yn y tymor hir, ac ar yr un pryd mae hefyd yn gwneud y broses graffu yn haws ac yn fwy atebol drwy wella tryloywder a datguddio.

Datganiad Strategaeth Gyllido (DSG)

Dalier Sylw

*Yn anffodus, nid yw'r datganiad hon wedi'i gyfieithu gan ei fod wedi'i gyhoeddi gan sefydliad trydydd parti.