Gwefan y Gronfa
Mae’r Gronfa wedi creu gwefan helaeth sy’n disgrifio darpariaethau’r Cynllun yn syml ac yn gryno. Caiff yr wybodaeth ddiweddaraf ac eitemau newyddion eu hychwanegu’n gyflym i hysbysu’r aelodau am unrhyw ddatblygiadau newydd. Hefyd mae modd lawrlwytho copïau electronig o ddogfennau’r Gronfa, ynghyd â’i pholisïau a’i hadroddiadau.
Fy Mhensiwn Ar-lein (FMA)
Gweborth integredig drwy wefan Cronfa Bensiwn Dyfed sy'n galluogi'r aelodau i weld ac i ddiweddaru manylion eu pensiwn yn ddiogel ar-lein. Mae modd i'r Aelodau gyfrifo eu buddion yn fanwl gywir, diweddaru eu dymuniadau o ran y grant marwolaeth a'u manylion cyswllt, a gweld y datganiad blynyddol o'u buddion.
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon
Mae copi electronig o Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Gronfa ar gael i holl aelodau’r Cynllun ar y wefan. Darperir copïau papur hefyd os gofynnir amdanynt.
Cylchlythyr(on) Blynyddol
Bydd y Gronfa yn anfon cylchlythyr blynyddol at holl aelodau’r Gronfa, sy’n trafod materion pensiwn cyfredol o fewn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a’r diwydiant pensiynau yn gyffredinol. Hefyd, anfonir y cylchlythyr at yr holl bensiynwyr, i roi gwybod iddynt am faterion pensiwn a materion eraill o ddiddordeb. Hefyd, cyhoeddir cylchlythyrau am bynciau penodol a chânt eu hanfon at yr aelodau yn ôl y galw.
Datganiad Buddion Blynyddol (DBB)
Caiff y datganiadau eu llwytho'n awtomatig i lecyn yr aelod ar wefan Fy Mhensiwn ar-lein, neu fe'u hanfonir yn uniongyrchol i gyfeiriad cartref yr aelod os yw wedi dewis peidio â chofrestru cyn 31ain Awst. Mae'r datganiad gweithredol yn amlinellu gwerth presennol y buddion (fel y maent ar 31ain Mawrth), yn rhoi amcan o'r hyn fydd eu gwerth pan fydd yr aelod yn cyrraedd ei Oedran Pensiwn Arferol, gwerth presennol y buddion marwolaeth. Mae'r datganiad buddion gohiriedig ar y llaw arall yn dangos yr hyn fydd gwerth y buddion ar sail y codiadau. Ynghyd â phob datganiad, rhoddir nodiadau cyfarwyddyd ategol.
Taflenni Dwyieithog y Cynllun
Mae Cronfa Bensiwn Dyfed yn cyhoeddi amrywiaeth eang o daflenni gwybodaeth i’w hanfon at gyrff cyflogi ac aelodau’r Cynllun yn uniongyrchol. Mae’r taflenni hyn yn rhan o’r wybodaeth a gedwir ar wefan y Gronfa.
Hysbysiad Statudol
Yn unol â Rheoliadau’r Cynllun, caiff yr aelodau eu hysbysu pan fydd unrhyw newid i’w cofnod pensiwn a fydd yn effeithio ar eu buddiannau pensiwn.
Seminarau Ar-lein
Cynhelir y rhain yn aml i godi ymwybyddiaeth yr aelodau ac i’w helpu i ddeall darpariaethau cyffredinol y Cynllun. Mae'r sesiynau hyn yn cael eu cyflwyno ar-lein trwy Teams.
Cyflwyniadau Cyffredinol a Chyrsiau
Gall y Gronfa roi cyflwyniadau safonol neu deilwredig ar amrywiaeth eang o faterion sy’n gysylltiedig â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Mae'r sesiynau hyn yn cael eu cyflwyno ar-lein trwy Teams neu yn bersonol.
Cymorthfeydd Pensiynau
Gellir trefnu cyfarfodydd i grwpiau o aelodau’r Cynllun os gofynnir am hynny, neu i aelodau unigol ar ffurf cymhorthfa. Gellir trefnu cyfarfodydd gyda'r Swyddog Cyfathrebu a Hyfforddiant pwrpasol a'u cynnal ar-lein trwy Teams neu yn bersonol.
Cyrsiau Cyn Ymddeol
Mae Swyddog Cyfathrebu a Hyfforddiant penodol y Gronfa ar gael i gyflwyno cyrsiau cyn-ymddeol ar-lein trwy Teams neu yn bersonol i gynorthwyo aelodau sydd ar fin ymddeol ac i roi gwybod iddynt am eu hawliau ac am weithdrefnau Llywodraeth Leol.
Gohebiaeth
Mae’r Gronfa’n defnyddio e-bost yn ogystal â’r post arferol i anfon a derbyn gohebiaeth. Atebir pob gohebiaeth yn yr iaith a ffafrir gan yr unigolyn. Mae cyfleuster Fy Mhensiwn ar-lein yn gweithredu hefyd fel cyfrwng electronig arall.
Slipiau Tâl / P60
Bydd pensiynwyr yn cael slipiau tâl bob mis Ebrill ac yna unrhyw bryd y bydd amrywiant o £5 neu ragor, oni bai fod yr aelodau wedi dewis defnyddio gwasanaeth Fy Mhensiwn Ar-lein. Yn ogystal, mae hysbysiadau P60 yn cael eu rhoi bob blwyddyn ym mis Mai, gan roi dadansoddiad o'r symiau blynyddol a delir.
Datganiadau Cynnydd yn y Pensiwn
Anfonir datganiad blynyddol at yr holl bensiynwyr pan fydd unrhyw gynnydd yn eu pensiwn, yn unol â mynegai costau byw priodol. Caiff y rhain eu rhoi yn electronig i'r rhai sydd wedi cofrestru ar gyfer gwasanaeth Fy Mhensiwn ar-lein.
Dilysu Bodolaeth (Ymarfer Tystysgrif Bywyd)
Bob blwyddyn bydd y Gronfa yn cynnal ymarfer i gadarnhau bodolaeth pensiynwyr sy’n cael eu taliadau pensiwn misol ar ffurf siec a'r pensiynwyr hynny sy’n byw dramor.