Awdurdodau Cyflogi
Mae tri math o awdurdod cyflogi yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL).
-
Cyrff Rhestredig
Ystyr corff rhestredig yw corff a ddiffinnir yn statudol yn rheoliadau'r cynllun ac y mae rhwymedigaeth statudol arno i gymryd rhan yn y cynllun.
Mae Cyrff Rhestredig cyfredol Cronfa Bensiwn Dyfed gyda gweithwyr pensiynadwy yn cynnwys:
1) Heddlu Dyfed-Powys
2) Coleg Ceredigion
3) Coleg Sir Benfro
4) Coleg Sir Gâr
5) Cyngor Sir Benfro
6) Cyngor Sir Ceredigion
7) Cyngor Sir Gâr
8) Gwasanaethau Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
9) Parc Genedlaethol Arfordir Sir Benfro -
Cyrff Dynodi
Yn yr un modd â chyrff rhestredig, caiff cyrff dynodi eu rhestru mewn atodlen yn rheoliadau'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Fel arfer, Cynghorau Tref a Chymuned yw'r rhan fwyaf o'r cyrff dynodi, ac unwaith yn rhagor mae gan yr awdurdod y grym i nodi pwy sy'n gymwys i ymuno â'r cynllun, cyn belled ag y cydymffurfir â'r meini prawf o ran mynediad.
Mae Cyrff Dynodi cyfredol Cronfa Bensiwn Dyfed gyda gweithwyr pensiynadwy yn cynnwys:
1) Cyngor Cymunedol Gorslas
2) Cyngor Cymunedol Llanbadarn Fawr
3) Cyngor Cymunedol Llanedi
4) Cyngor Cymunedol Llangennech
5) Cyngor Cymunedol Llannon
6) Cyngor Gwledig Llanelli
7) Cyngor Tref Aberystwyth
8) Cyngor Tref Caerfyrddin
9) Cyngor Tref Cwmaman
10) Cyngor Tref Cydweli
11) Cyngor Tref Dinbych y Pysgod
12) Cyngor Tref Llanelli
13) Cyngor Tref Pembre a Porth Tywyn
14) Cyngor Tref Penfro
15) Cyngor Tref Doc Penfro -
Cyrff a Dderbynnir
Mae dau fath o gyrff a dderbynnir, sef cyrff a dderbynnir (cymuned) a chyrff a dderbynnir (trosglwyddeion). Gall rhai mathau o gyflogwyr fod yn rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol drwy gytundeb derbyn y cytunnir arno gyda Chronfa Bensiwn Dyfed. Mae cyrff a dderbynnir (cymuned) yn cynnwys sefydliadau sy'n rhoi gwasanaeth yn ddielw i'r cyhoedd ac sydd â digon o gysylltiad ag un o Gyflogwyr y Cynllun fel y gellid ystyried bod gan y sefydliad ddiddordeb cymunedol.
Yn sgil newidiadau i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, mae hawl i staff a drosglwyddwyd o ganlyniad i drosglwyddo gwasanaeth ar gontract allanol i'r sector preifat, gael cynnig aelodaeth o gynllun pensiwn cymharol debyg, ac i gynnig aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol i'r cyflogwr sector preifat o dan y cytundeb derbyn, a elwir yn Gorff a Dderbynnir (Trosglwyddeion).
Er mwyn cael mynediad i'r cynllun, mae'n rhaid bod Corff a Dderbynnir (Trosglwyddeion) yn darparu gwasanaeth neu asedau mewn perthynas â chyflawni un o swyddogaethau un o Gyflogwyr y Cynllun.
Mae Cyrff a Dderbynnir cyfredol Cronfa Bensiwn Dyfed gyda gweithwyr pensiynadwy yn cynnwys:
1) Anabledd Leonard Cheshire
2) Barcud Cyf. (gynt yn Tai Ceredigion Cyf.)
3) Cymdeithas Chwaraeon Cymunedol Arberth a’r Cylch
4) Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO)
5) Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin (CAVS)
6) Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS)
7) Cyngor Llyfrau Cymru
8) Cwmni Iaith (Iaith Cyf.)
9) Gweithredu Gorllewin Cymru Dros Iechyd Meddwl
10) Gyrfaoedd Gorllewin Cymru
11) Llesiant Delta Wellbeing
12) Marina Porth Tywyn Cyf.
13) Menter Bro Dinefwr
14) Menter Cwm Gwendraeth
15) Menter Gorllewin Sir Gar
16) Menter Nedd a Afan
17) Mudiad Clwb Ffermwyr Ifanc Sir Gar
18) PLANED
19) Pobl Group (gynt yn Grwp Gwalia Cyf.)
20) Prifysgol Cymru, Aberystwyth
21) Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin
22) SWIM NARBERTH
23) Tribiwnlys Prisio Gorllewin Cymru
24) Twristiaeth Sir Benfro Cyf.Dalier Sylw
Os ydych am dderbyn rhagor o wybodaeth am ddod yn Gyrff a Dderbynnir, cysylltwch â Chronfa Bensiwn Dyfed.