Llywodraethu
Mae trefniadau llywodraethu'r Gronfa Bensiwn Dyfed yn sicrhau bod gweinyddiaeth y gronfa a'r risg buddsoddi yn cael eu rheoli ar y lefel uchaf. Mae'r Gronfa'n sylweddoli bod risg yn rhan annatod o lawer o'i gweithgareddau ac mae'n defnyddio ymgynghorwyr allanol ac yn cydymffurfio ag arferion gorau y diwydiant er mwyn asesu risg a llunio polisïau er mwyn nodi a lleihau'r risgiau hynny.