Cynllun Busnes

Mae Cronfa Bensiwn Dyfed wedi llunio a cyhoeddi ei Cynllun Busnes. Mae’n egluro sut mae’n bwriadu datblygu a gwella ei gwasanaethau ac, yn benodol, mae’n nodi prif gyfrifoldebau’r Gronfa, ei hamcanion busnes a’i blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol. Mae’r Cynllun yn canolbwyntio hefyd ar reoli’r Gronfa, o ran y buddsoddi a’r gweinyddu.

Fe bydd y Cynllun yn galluogi'r Gronfa i ganolbwyntio ar gyrraedd targedau cytûn ac yn helpu aelodau o'r staff i weld sut maent yn cyfrannu at lwyddiant cyffredinol y Gronfa.

Cronfa Bensiwn Dyfed