Diwygio CPLlL 2014
CPLlL 2014 - Ryddhau y Rheoliadau Trosiannol (Mawrth 2014)
Mae'r rheoliadau trosiannol ar gyfer y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) 2014 wedi cael eu rhyddhau. Mae'r rheoliadau hyn yn amlinellu sut y bydd aelodau presennol Cynllun 2008 (fel ar 31 Mawrth 2014) yn cael ei drin o 1 Ebrill 2014.
Gellir gweld y rheoliadau Trosiannol ar gwefan GOV.UK
CPLlL 2014 - Ryddhau y Rheoliadau (Hydref 2013)
Mae'r rheoliadau ar gyfer y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) 2014 wedi cael eu rhyddhau ac mae wedi cael ei gadarnhau y bydd cynllun newydd yn cael ei gyflwyno o 1 Ebrill 2014. Fodd bynnag, nid yw'r rheoliadau trosiannol wedi cael ei rhyddhau eto.
Gellir gweld rheoliadau ar gyfer y Cynllun newydd ar gwefan GOV.UK
CPLlL 2014 - Ymgynghoriad Mehefin 2013 (Rheoliadau Drafft)
Mae'r ymgynghoriad hwn yn dechrau trydydd cyfnod o ymgynghori statudol ar rheoliadau drafft ar gyfer y CPLlL newydd a fydd yn dod i rym o 1 Ebrill 2014. Yn ychwanegol at y rheoliadau drafft sy'n yn ymwneud ag aelodaeth, cyfraniadau a budd-daliadau, fe fydd hefyd yn cynnwys rhan newydd ar gyfer gweinyddu'r cynllun.
Mae'r cyfnod hwn o ymgynghori wedi dod i ben ar 2 Awst 2013.
Gellir gweld yr ymateb i'r ymgynghoriad ar wefan GOV.UK
CPLlL 2014 - Ymgynghoriad Mehefin 2013 (Trefn Rheoli y Cynllun)
Mae'r Ddeddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus 2013 yn cynnwys nifer o ddarpariaethau allweddol ar lywodraethu'r Cynllun a bydd gofyn ar ryw adeg yn y dyfodol i gyflwyno i mewn i'r CPLlL newydd, a fydd yn dod i rym o 1 Ebrill 2014.
Mae'r papur trafod hwn yn esbonio'r gofynion hyn yn fwy manwl ac yn gwahodd sylwadau ar nifer o gwestiynau allweddol a fydd yn helpu i lunio reoliadau drafft ar lywodraethu. Mae'r cyfnod hwn o ymgynghori wedi cau ar 30 Awst, 2013.
Gallwch gweld darpariaethau'r Ddeddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus ar wefan GOV.UK
Am ragor o wybodaeth ynglŷn a'r ymgynghoriad hwn ar wefan GOV.UK
CPLlL 2014 - Ymgynghoriad Mawrth 2013
Mae'r ymgynghoriad hwn yn dechrau ail gyfnod o ymgynghori statudol ar y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol newydd a fydd yn dod i rym o 1 Ebrill, 2014. Bydd yn cynnwys rheoliadau drafft ar aelodaeth, cyfraniadau a budd-daliadau, darpariaethau trosiannol a darpariaethau amrywiol.
Nodwch, os gwelwch yn dda, bod dyddiadau cau ar wahân ar gyfer y gwahanol elfennau o'r ymgynghoriad:
- Mai 3, 2013 - Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 2013
- Mai 24, 2013 - darpariaethau trosiannol a diwygiadau amrywiol
Gellir ddod o hyd i rhagor o wybodaeth ar wefan GOV.UK
CPLlL 2014 - Ymatebion i'r Ymgynghoriad
Mae'r ymgynghoriadau a gynhaliwyd gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol (LGA), UNSAIN, GMB ac Unite wedi cymeradwyo, â mwyafrif llethol, gynigion am Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol diwygiedig. Cynhaliwyd yr ymgynghoriadau rhwng dechrau mis Mehefin a diwedd mis Awst ac roeddent yn cynnwys cynnal pleidleisiau cyfrinachol, unigol o aelodau'r undebau ac yn cynnwys proses i alluogi'r cyflogwyr sy'n rhan o'r cynllun i fynegi a oeddent o blaid y cynigion (ai peidio) ac i wneud sylwadau ar y cynigion.